Mae Aelod Seneddol Delyn, Rob Roberts, wedi dychwelyd i siambr Tŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ers iddo gael ei wahardd am chwe wythnos am gamymddygiad rhywiol.

Ar 27 Mai, cymeradwyodd ASau y cynnig i wahardd Mr Roberts o Dŷ’r Cyffredin am chwe wythnos am gamymddygiad rhywiol tuag at aelod o staff.

Collodd chwip y Torïaid hefyd.

Fodd bynnag, ni chafwyd deiseb i adalw Mr Roberts – cam a allai fod wedi arwain at isetholiad – oherwydd bod y gosb wedi’i rhoi gan banel annibynnol yn hytrach na phwyllgor seneddol.

Dan bwysau i ymddiswyddo

Serch hynny, mae wedi bod o dan bwysau mawr i ymddiswyddo, gyda Syr Alistair Graham, cyn-gadeirydd un o bwyllgorau San Steffan, yn dweud bod y sefyllfa’n tanseilio’i “awdurdod a’i hygrededd”.

Yn ogystal, fe ddywedodd Jacob Rees Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, y byddai’n “anrhydeddus” i Rob Roberts AS gamu o’r neilltu.

Mae Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, hefyd wedi dweud bod Rob Roberts wedi gallu manteisio ar “loophole amlwg, a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid ei gau”.

Mae Jacob Rees-Mogg wedi dweud y bydd yn ceisio newid y rheolau er mwyn sicrhau y byddai deiseb adalw yn cael ei chyflwyno yn sgil unrhyw waharddiad sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol neu fwlio yn y dyfodol.

Meinciau cefn

Cymerodd AS Delyn sedd ar res gefn meinciau’r Llywodraeth yn ystod dadl ar y Mesur Iechyd a Gofal heddiw (dydd Mercher 14 Gorffennaf).

Roedd wedi’i restru i siarad yn y ddadl ar ail ddarlleniad y Bil.

Ni soniodd Rob Roberts am ei waharddiad diweddar yn ystod ei araith.

Siaradodd am faterion iechyd yng Nghymru a Lloegr.

Fe wnaeth yr AS Llafur Jess Phillips (Birmingham Yardley) sawl ymgais i ymyrryd ar Mr Roberts, ond gwrthododd ei cheisiadau.

Fe wnaeth hithau ei alw’n “gachgi” ar Twitter yn nes ymlaen.

“Asesiad risg”

Cyn y ddadl, cododd arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin, Thangam Debbonaire, fater o drefn i gwestiynu “a ydym wedi cymryd pob cam y gallwn i reoli unrhyw risg bosibl?”

Dywedodd wrth y siambr: “Fel y gwyddoch mae gennyf rywfaint o arbenigedd yn y maes hwn ac yn anffodus un o’r rhagfynegyddion gorau o risg yn y dyfodol yw ymddygiad yn y gorffennol.

“Pa asesiad risg sydd wedi’i wneud o ddychwelyd yr aelod hwn i’r safle? Pa arbenigwyr yr ymgynghorwyd â hwy?

“Os oes cynllun rheoli risg ar waith … pa ganllawiau sydd wedi’u darparu i staff i fesur a sicrhau [y canllawiau hynny]?”

Dywedodd y Dirprwy Lefarydd y Fonesig Eleanor Laing nad oedd hi’n “briodol” iddi roi sylwadau ar achosion unigol.

Ychwanegodd: “Os oes unrhyw un yn teimlo’n anniogel dylen nhw siarad â’u rheolwr, cysylltu â’r llinell gymorth, neu ystyried defnyddio rhai o’r ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael.

“Dylai pawb sy’n gweithio yma deimlo’n ddiogel.

“Mawr obeithiaf y bydd y negeseuon hyn yn cael eu cymryd o ddifrif ac wrth gwrs mae’r aelodau Seneddol mwyaf profiadol bob amser yn hapus iawn pan fydd y rhai sy’n gweithio iddynt, neu’n agos atynt, yn dod atynt am gyngor neu arweiniad ar faterion y gallant fod yn bryderus yn eu cylch.”