Fel rhan o’i gyhoeddiadau llacio ddoe (dydd Mercher 14 Gorffennaf), dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd y rheoliadau yn newid o ran canolfannau preswyl, fel sefydliadau’r Urdd.
Golyga hyn, dros wyliau’r haf, y caiff hyd at 30 o blant ar un adeg fynd i ganolfannau preswyl, fel sefydliadau’r Urdd.
Wrth siarad â Golwg360, mae cyfarwyddwr gwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Huw Antur wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod “yn gyhoeddiad rydym wedi bod yn aros amdano fe ers talwm a dweud y gwir”.
“Cyfnod llwm”
“Mae e wedi bod yn gyfnod llwm iawn i ni fel gwersyll,” meddai Huw Antur.
“Mae rhyw faint o gyfyngiadau i’w disgwyl, ond gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen gyda’n gweithgareddau ni yma.”
Bydd hefyd disgwyl i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth ar y risgiau a’r camau lliniaru yn eu hasesiad risg Covid-19 i’w gweithwyr.
“Mae’r staff i gyd wedi eu hyfforddi,” meddai Huw Antur am hynny.
“A byddwn yn glynu at y rheolau a gweld faint o blant sy’n cael bod rhan o bob swïgen ar gyfer pob gweithgaredd.”
“Yn ogystal ar faint o blant fydd yn cael rhannu ystafell, a beth yw’r trefniadau bwyta … ond rwy’n siŵr y bydd hyn i gyd yn bosib.”
Sefyllfa ariannol
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ergyd ariannol i’r Urdd – y llynedd cyhoeddodd y mudiad golled incwm o oddeutu £14 miliwn, a dydy Huw Antur ddim yn meddwl y bydd y cyhoeddiad diweddara yn dod â’r pryderon ariannol i ben ar unwaith.
“Mae’r cwestiwn am wneud elw yn gwestiwn anodd,” meddai Huw Antur.
“Mae e’n amlwg yn llai na beth rydym fel arfer yn gwneud yn y gwersyll.”
“Yn ariannol, fydd e ddim yn gwneud synnwyr i ni am gyfnod eithaf hir eto.
“Ond o leia ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir”
‘Y gwersyll a’r Gymraeg’
Ond prinder cyfle plant i siarad Cymraeg yw un o brif bryderon cyfarwyddwr gwersyll Glan-Llyn.
“Un o’r pryderon pennaf sydd wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf yw’r diffyg cyfle mae plant yn cael i siarad Cymraeg [yn allgyrsiol].
“Nawr, mae yna gyfle iddynt ddychwelyd – gallwn ni ddim rhoi pris ar y cyfleodd hynny, mae hynny’n werthfawr tu hwnt.”