Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y bydd disgwyl i bobol sy’n teithio i Gymru ar drenau wisgo gorchudd wyneb wrth ddod i mewn i’r wlad.

Dywedodd wrth BBC Breakfast fore heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 15) ei fod e’n gobeithio y bydd pobol yn dilyn y cyngor “clir” sydd wedi’i roi gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ar y mater ond fod gwisgo gorchudd wyneb yn gyfraith yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl iddo egluro’r llacio nesaf fydd yn digwydd o ddydd Sadwrn (Gorffennaf 17), wrth i Gymru symud i rybudd lefel un:

  • Hyd at chwe pherson yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
  • Gellir cynnal digwyddiadau wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd, a hyd at 200 yn sefyll.
  • Gall canolfannau sglefrio iâ ailagor.
  • Dim cyfyngiadau ar gyfer faint o bobol all gyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau.
  • Mwy o hyblygrwydd o ran pellter corfforol mewn digwyddiadau a safleoedd awyr agored.
  • Hyd at 30 o blant yn cael ymweld â chanolfannau gweithgarwch preswyl.
  • Gofyniad penodol i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth ar y risgiau a’r camau lliniaru yn eu hasesiad risg Covid-19 i’w gweithwyr.

“Bydd y bobol sy’n rhedeg y system drafnidiaeth yn sicrhau bod pobol yn ymwybodol wrth iddyn nhw ddod i mewn i Gymru fod rheolau gwahanol mewn grym,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Breakfast.

“Os ydych chi’n teithio i mewn i Gymru ar y ffyrdd, byddwch chi’n gweld arwyddion sy’n dweud bod ‘rheolau Cymru mewn grym’.

“Bydd hynny’n wir ar drenau a dulliau eraill o drafnidiaeth hefyd.

“Gobeithio y bydd pobol yn dilyn cyngor clir y prif weinidog yn Lloegr y dylen nhw barhau i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Yma yng Nghymru, bydd y rheol yn glir, nid cyngor syml yw e, dyna fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith.”

 

Cymru’n symud yn llawn i lefel rhybudd un ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf

Dylai Cymru allu symud at lefel rhybudd sero ar 7 Awst – ond bydd gwisgo masgiau dal yn ofyniad cyfreithiol dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mark Drakeford yn “gynyddol hyderus” fod brechlynnau yn gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion Covid a salwch difrifol

Daw hyn wedi iddo gyhoeddi fod Cymru’n symud i lefel rhybudd un yn llawn ddydd Sadwrn