Mae’n bosib na fydd yn rhaid i deithwyr o wledydd rhestr oren hunanynysu mwyach os ydyn nhw wedi’u brechu’n llawn.

Daw hyn ar ôl i Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, ddweud ei fod am agor gwyliau i nifer o wledydd poblogaidd yn y Môr Canoldir.

Dilynodd Grant Shapps lywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon wrth ychwanegu’r Ynysoedd Balearaidd, Melita a Sbaen at y gwledydd rhestr werdd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dilyn eu hesiampl.

Mae Bermiwda, Antigua, Barbados a Grenada hefyd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywed Grant Shapps y bydd y Llywodraeth yn parhau i weithredu dull “gofalus” wrth ailagor teithio tramor.

“Diolch i’n rhaglen frechu lwyddiannus, ein bwriad yw na fydd yn rhaid i drigolion y Deyrnas Unedig sy’n cael eu brechu’n llawn ynysu wrth deithio o wledydd rhestr oren yn ddiweddarach yn yr haf,” meddai.

“Byddwn yn nodi rhagor o fanylion fis nesaf.”

Daw’r newidiadau i’r rhestr werdd i rym am 4yb ar Orffennaf 30.

Rhybuddia Grant Shapps fod yr holl ychwanegiadau i’r rhestr werdd, ac eithrio Melita, hefyd wedi’u hychwanegu at y rhestr wylio werdd, sy’n dangos eu bod mewn perygl o symud yn ôl i oren.

Mae Israel a Jerwsalem hefyd wedi’u rhoi ar y rhestr wylio.

Er i’r cyhoeddiad gynnig rhywfaint o ryddhad i’r diwydiant teithio, roedd siom nad oedd y Llywodraeth wedi mynd ymhellach, gyda Groeg, Ffrainc, yr Eidal a Sbaen yn dal i fod ar y rhestr oren.

“Rhy ofalus”

Dywed Karen Dee, prif weithredwr Cymdeithas Gweithredwyr y Meysydd Awyr, y bydd dull “rhy ofalus” y Llywodraeth yn parhau i gael “effeithiau ariannol mawr” ar y sector.

“Mae unrhyw estyniad i’r rhestr werdd i’w groesawu, waeth pa mor fach, ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn realistig: nid dyma’r ailgychwyn ystyrlon y mae angen i’r diwydiant hedfan allu adfer o’r pandemig,” meddai.

“Rydym yn annog y Llywodraeth i gyhoeddi manylion am ei chynlluniau a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn arbed yr hyn sy’n weddill o dymor yr haf.”

‘Cam i’r cyfeiriad cywir’

Ond dywed Huw Merriman, cadeirydd Pwyllgor Dethol Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin, fod y newidiadau yn “gam i’r cyfeiriad cywir”.

Fodd bynnag, mae’n annog gweinidogion i beidio ag oedi cyn llacio’r cyfyngiadau ar wledydd rhestr oren lle mae teithio’n dal yn “ddiangen o anodd”.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymhwyso ei rhesymeg ei hun o ddefnyddio’r data i gyfaddef fod mynd dramor yn ddiogel i’r rhai sydd wedi cael y ddau bigiad,” meddai.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ystyried hyn mewn pryd ar gyfer dechrau gwyliau haf mis Gorffennaf.”

Ymateb Mark Drakeford

Yn y cyfamser, mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud nad yw e wedi mynegi pryder ynghylch y newid yn y rheolau yn Lloegr.

“Dw i ddim wedi cael y sgwrs honno’n uniongyrchol â’r prif weinidog, ac mae peth amser ers i fi gael y fath sgwrs,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Fodd bynnag, mae gyda ni gyfleoedd eraill bob wythnos i siarad ag uwch weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn sicr, rydyn ni wedi ymateb yn y fan honno.

“Dw i’n sicr eu bod nhw wedi pwyso a mesur pethau’n ofalus eu hunain – maen nhw wedi dod i gasgliad gwahanol, casgliad nad ydyn ni’n ei rannu, ond rydyn ni wedi cael y cyfle i leisio ein safbwyntiau.”

Ychwanegodd ei fod e ond wedi cael un sgwrs ffôn â Boris Johnson ers etholiadau’r Senedd ar Fai 6, ac un cyfarfod ar gyfer y prif weinidogion.

“Roedd y cyfarfod hwnnw’n un hirach, cyfarfod go iawn, felly dyna’r cyswllt dw i wedi’i gael,” meddai.

Wrth leisio barn ar y mater, mae’n dweud ei fod yn “difaru” y newid sydd wedi’i gyhoeddi gan Boris Johnson.

“Dw i’n credu ei fod yn arwain at berygl o ailfewnforio’r feirws i’r Deyrnas Unedig, dw i’n credu ei fod yn arwain at berygl o amrywiolion newydd yn codi yn rhywle arall yn y byd yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig ac i Gymru.

“Dw i’n credu bod y gyfundrefn flaenorol yn un mwy synhwyrol a chymesur.”