Mae bron i ddwy ran o dair (63%) o famau sy’n gweithio yng Nghymru sydd â phlant oedran ysgol gynradd heb ddigon o ofal plant ar gyfer gwyliau’r haf, yn ôl arolwg newydd gan TUC Cymru a’r ymgyrchydd Mother Pukka.
Ac mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth i famau sengl yng Nghymru, gyda mwy na dwy ran o dair (68%) yn dweud wrth TUC Cymru nad oes ganddyn nhw ofal plant digonol ar gyfer y gwyliau sydd i ddod.
Ddiwedd mis Mehefin, lansiodd y TUC a’r ymgyrchydd Mother Pukka alwad am dystiolaeth i famau sy’n gweithio rannu eu profiadau o sut y byddan nhw’n rheoli eu hymrwymiadau gwaith a gofal plant yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Cysylltodd dros 36,000 o famau, ac roedd dros 1,200 ohonyn nhw’n dod o Gymru.
Nododd mamau sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru heriau enfawr o ran cydbwyso eu gwaith a’u gofal plant, gyda bron i ddwy ran o dair (64%) yn dweud y bydden nhw’n ei chael hi’n anos rheoli gofal plant yn ystod y gwyliau eleni nag o’r blaen.
O’r mamau hynny yng Nghymru a ddywedodd y bydden nhw’n ei chael hi’n anos cael gofal plant yn yr haf eleni:
- dywedodd bron i un o bob pump (18%) eu bod wedi defnyddio eu holl lwfans gwyliau blynyddol eisoes i ddarparu ar gyfer addysg yn y cartref yn ystod cyfyngiadau symud blaenorol.
- dywedodd mwy nag un o bob pump (22%) nad oes ganddyn nhw eu rhwydwaith arferol o ffrindiau na theulu y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw i helpu gyda’u gofal plant eleni.
- dywedodd un o bob chwech (17%) wrth TUC Cymru nad oes ganddyn nhw fynediad i’w clybiau haf gwyliau ysgol arferol.
Ymdopi â gwaith a gofal plant
Mae mamau yng Nghymru yn dweud eu bod yn cydbwyso amrywiaeth o ffyrdd o geisio ymdopi â gofalu am eu plant yn ystod gwyliau’r ysgol – ac mae llawer yn dibynnu ar allu gweithio’n fwy hyblyg nag o’r blaen:
- dywedodd hanner (50%) o famau eu bod yn ymdopi â chyfrifoldebau gofalu drwy ryw fath o weithio hyblyg.
- mae dau o bob pump (41%) yn cyfuno gweithio gartref â gofal plant.
- mae chwarter (26%) yn gweithio’n fwy hyblyg nag arfer.
- mae tua un o bob wyth (12%) yn lleihau eu horiau yn y gwaith.
- mae tua un o bob wyth (12%) yn cymryd absenoldeb di-dâl.
‘Ni ddylai fod mor anodd â hyn’
“Ni ddylai fod mor anodd â hyn. Heb weithredu, mae perygl i ni droi’r cloc yn ôl ar genedlaethau o gynnydd y mae menywod wedi’i wneud yn y gwaith,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Mae’n amlwg bod rhieni’n dibynnu ar hyblygrwydd yn fwy nag erioed i ymdopi â’r gofynion ychwanegol a achosir gan yr argyfwng.
“Gadewch i ni sicrhau bod gan bawb hawliau cyfreithiol cryfach i drefniadau gweithio hyblyg.
“A byddwn yn annog cyflogwyr i fod mor gefnogol ag y gallant i’w staff sydd â phlant, a heb eu gorfodi’n ôl i’r swyddfa os yw gweithio gartref yn eu helpu i gydbwyso eu gwaith a’u gofal plant.”
Galw am weithredu
Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i:
- gyflwyno hawl gyfreithiol i waith hyblyg i bob gweithiwr o’u diwrnod cyntaf mewn swydd a dyletswydd i gynnwys yr hyblygrwydd sydd ar gael mewn hysbysebion swyddi
- cyflwyno 10 diwrnod o absenoldeb gofalwr a delir ar gyflog llawn, o’r diwrnod cyntaf mewn swydd, i bob rhiant.
- darparu cyllid i Gymru ar gyfer buddsoddi mewn gofal plant.