Mae cynghorydd sir dan y lach am ddweud yn ystod dadl ynghylch ymestyn mynwent yn sir Conwy o ganlyniad i farwolaethau Covid-19 y “dylai pawb gael eu hamlosgi a’u taflu i’r môr”.
Daeth sylwadau Andrew Hinchliff yn ystod cyfarfod y pwyllgor cynllunio ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 14), wrth i gynghorwyr ystyried cynnig i ymestyn mynwent Llanrhos yn Llandudno gyda 1,600 o lefydd newydd i gladdu pobol.
Mae’r cynnig yn un dadleul ac fe arweiniodd at sawl gwrthwynebiad gan drigolion lleol gan y byddai ar dir “gwyrdd” oedd yn arfer bod yn eiddo Mostyn Estates.
Mae gan y tir statws “tirlun arbennig penodedig” hefyd.
Yn ystod y ddadl, cynigiodd Andrew Hinchliff y gallai mynwent â lawnt fod yn well na cherrig beddi’n sefyll.
“Dw i ddim yn ffan mawr o fynwentydd,” meddai.
“Dw i’n credu y dylai pawb gael eu hamlosgi a’u taflu i’r môr cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn.
“Os ydyn ni am ei gael fel rhan o dir parc a’n bod ni’n digwydd bod yn berchen arno, rydyn ni eisiau gwneud y lleiaf posib i darfu arno.”
‘Parchu dymuniadau pobol’
Fe wnaeth sawl cynghorydd ymateb i’r sylwadau cyn i’r cadeirydd Alan Hunter ymyrryd yn y drafodaeth.
“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni barchu dymuniadau pobol ynghylch sut maen nhw’n ymdrin â’u hanwyliaid pan fyddan nhw’n gadael y byd yma,” meddai.
Cafodd y cynlluniau eu derbyn yn unol ag argymhellion swyddog o chwe phleidlais i un, gyda phump yn atal eu pleidlais.
Fe wnaeth John Lawson-Reay, cadeirydd Cymdeithas Hanes Llandundo a Bae Colwyn apelio’n daer ar i gynllunwyr beidio â defnyddio’r tir.
Dywedodd y Cynghorydd Trystan Lewis, sy’n cynrychioli ward Pensarn, ei fod yn cofio’r caeau o’i blentyndod ac yn pendroni a allai’r tir i’r gogledd o’r fynwent bresennol gael ei ddefnyddio yn hytrach na “defnyddio rhywle mor arbennig â hyn”.
Ond daethpwyd i’r casgliad mai Cyngor Sir Conwy biau’r tir lle byddai’r estyniad, gyferbyn â’r fynwent bresennol.
Y tir a’r cynnig
Mae’r tir 0.87 hectar gyferbyn â’r fynwent yn cael ei ddefnyddio fel porfa i geffylau ar hyn o bryd ac mae’n cael ei wahanu oddi ar y tir claddu gan berth, ffens a choed bach.
Fe fydd llwybrau cerrig a system ddraenio’n rhan o’r cynnig a byddai’r safle newydd, pe bai’n cael sêl bendith, yn hygyrch ar droed o’r fynwent bresennol.
Mae’r tir o fewn “tirlun arbennig penodedig, tir gwyrdd a thirlun hanesyddol” yn ôl adroddiad gafodd ei gyflwyno i’r pwyllgor, ac mae nifer o goed wedi’u gwarchod gan Orchymyn Gwarchod Coed.
Mae’r ardal hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer gwarchod “craig galed, tywod a graean”.
Sefyllfa mynwentydd y sir
Daeth adroddiad ym mis Mawrth i’r casgliad fod pedair o 11 mynwent y sir eisoes yn llawn ac nad oedd modd claddu rhagor o bobol ynddyn nhw, a bod marwolaethau Covid-19 wedi cyfrannu at hynny.
Gyda chyfradd gladdu o 20% o farwolaethau a’r twf ym mhoblogaeth y sir, bydd nifer y rhai sy’n cael eu claddu yn parhau i gynyddu’n raddol.
Mae amcangyfrifon poblogaeth yn dangos bod oddeutu 27% o boblogaeth y sir dros 65 oed, ond mae disgwyl i’r ganran godi i oddeutu 31% erbyn 2028.
Er bod lle ym mynwentydd Llangwstenin a Bron y Nant ar hyn o bryd, mae’r astudiaeth yn dweud y byddai atal rhagor o bobol rhag cael eu claddu yn Llanrhos yn llenwi unrhyw gapasiti dros ben, ac y byddai angen dod o hyd i ragor o le.
Mae’r cais llawn yn ceisio caniatâd i adeiladu’r estyniad, llwybrau a gwaith ar y tirlun ar y safle.
Fe fydd 639 o lefydd claddu dwbwl, 180 o lefydd claddu sengl a 749 o lefydd i amlosgi, sy’n golygu cyfanswm o 1,568.