Mae staff nifer o ysgolion wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn sgil y cyhoeddiad na fydd gwisgo gorchudd wyneb yn ofynnol mewn ysgolion o fis Medi.

Bydd mygydau’n parhau’n ofynnol mewn mannau dan do cyhoeddus ac ar drafnidiaeth gyhoeddus serch hynny.

Mae’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o’u hanwybyddu wedi iddyn nhw godi pryderon mewn cyfarfodydd cyson gyda gweinidogion y llywodraeth.

Dywed Rose Lewis, Swyddog Ysgolion UNSAIN, fod y penderfyniad hwn yn “gambl ac fe allai arwain at aflonyddwch pellach”.

“Mae’n llawer rhy gynnar i ni wybod beth fydd y sefyllfa ym Mis Medi, ar ddechrau tymor newydd mae angen i ysgolion gael amser i addasu i’r sefyllfa bryd hynny,” meddai.

Arolwg 

Heddiw, mae’r undeb wedi cyhoeddi ymchwil sydd eisoes wedi ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r arolwg o 1,250 o athrawon, cynorthwywyr, staff coginio a thechnegwyr yn dangos bod y rhan fwyaf o staff ysgolion am weld gorchuddion wyneb yn parhau’n ofynnol mewn ysgolion:

  • dywedodd 61% eu bod yn teimlo’n fwy diogel yn gwisgo gorchuddion wyneb yn y gwaith.
  • teimla 57% fod eu gwisgo mewn ysgolion uwchradd yn fesur diogelwch pwysig.
  • byddai 48 y cant yn poeni pe na bai gorchuddion wyneb yn ofynol mewn ysgolion.

Mae’r undeb wedi lleisio eu pryderon am y cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sy’n gorfod hunanynysu wrth i fwy o blant brofi’n positif am Covid-19.

Mae UNSAIN yn dweud y bydd y newidiadau fis Medi yn gwneud mwy o blant a staff yn agored i amrywiolion newydd.

Yn ogystal, maen nhw’n poeni y bydd gadael i ysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain yn arwain at ddryswch ynglŷn â’r rheolau, ac y bydd newidiadau i grwpiau cyswllt yn arwain at fwy o anhawster i brofi ac olrhain, gan gyfrannu at ymlediad y feirws.

Bydd disgwyl llai o lanhau trylwyr mewn ysgolion fel sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y pandemig hefyd, ac mae hynny’n destun pryder mawr i’r undeb.

‘Llywodraeth yn ein hanwybyddu’

Mae Jonathan Lewis, sy’n gweithio mewn ysgol ac yn gadeirydd ar fformwm cynorthwywyr UNSAIN Cymru yn dweud bod y penderfyniad yn ergyd i hyder athrawon.

“Rydym am i blant, rhieni a staff fod yn hyderus fod ein hysgolion yn ddiogel,” meddai.

“Credwn fod y penderfyniad hwn i gael gwared ar fygydau i staff a disgyblion yn gam anghywir i’w wneud ar hyn o bryd.

“Fe gyflwynwyd y data a gasglwyd gan UNSAIN i’r llywodraeth, ac felly mae’n hynod siomedig bod dymuniadau rhesymol gweithwyr ein hysgolion wedi eu hanwybyddu.”

Bydd UNSAIN yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gryfhau diogelwch mewn ysgolion.