Mae Yes Cymru wedi ymateb i gartŵn sydd wedi’i rannu ar y we sydd, yn ôl y mudiad, yn ailadrodd ‘ystrydebau gwrth-Semitaidd’.
Roedd y cartŵn, meddai’r mudiad, yn “ymosod ar aelod o’r pwyllgor canolog”.
Mae’r mudiad annibyniaeth yn dweud eu bod nhw wedi dileu gwaith y cartwnydd, Mumphtoons, o’u pecyn croeso ac wedi gwahardd yr aelod dros dro.
Mae’r cartŵn wedi cael ei rannu’n helaeth fel rhan o’r ffrae ddiweddaraf o fewn y mudiad.
“Fore heddiw, cafodd sylw YesCymru ei dynnu at gartŵn yn ymosod ar aelod o’r pwyllgor canolog gan gyn-ddarparwr gwasanaethau ac aelod o YesCymru,” meddai’r mudiad mewn datganiad uniaith Saesneg.
“Rydym yn credu bod y darlun hwn yn ailadrodd ystrydebau gwrth-Semitaidd ac wedi’i ddylunio i achosi niwed i’r aelod o’r pwyllgor canolog.
“Tra bod Yes Cymru yn annog dadl a thrafodaeth ymhlith eu haelodau, cefnogwyr a’r gymuned ehangach, allwn ni ddim goddef bwlio, aflonyddu na gwrth-Semitiaeth ac mae angen i ni weithredu drwy wahardd yr aelod dros dro ar unwaith a dileu ei waith o’n pecyn croeso tra bod ymchwiliad ar y gweill.”