Mae Robert Jenrick, Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gwadu bod rheolau Covid Lloegr yn “siambls llwyr” wrth i’r cyfyngiadau ddod i ben yno ddydd Llun (Gorffennaf 19).

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 14), dywedodd Mark Drakeford mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n dilyn trywydd gwahanol, ac y byddai’n well pe bai Lloegr yn dilyn Cymru a’r Alban drwy barhau i wneud gwisgo masgiau’n ofyniad cyfreithiol.

Dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n “anodd” i bobol yn Lloegr wybod yn union beth sy’n ofynnol, ac fe wnaeth e annog Llywodraeth San Steffan i wneud yr un fath â gweddill y Deyrnas Unedig.

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwneud rhywbeth gwahanol, a phe baen nhw’n barod i wneud yr un penderfyniad ag sydd wedi’i wneud yn yr Alban a Chymru, er enghraifft, byddai hynny’n gliriach ac yn symlach i bawb,” meddai wrth Good Morning Britain.

Wrth ymateb, dywedodd Robert Jenrick fod llwyddiant y rhaglen frechu’n golygu ei bod hi’n iawn i fusnesau ac unigolion benderfynu ar eu rhagofalon eu hunain.

‘Negeseuon cymysg’

Mae’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod disgwyl i siopwyr wisgo mygydau yn Lloegr ac y dylai gwasanaeth gweini wrth y bwrdd barhau i gael ei ddefnyddio mewn tafarndai a bariau, ond na fydd hynny’n ofyniad cyfreithiol o ddydd Llun.

Mae’r cam wedi cael ei feirniadu gan undebau a chyflogwyr, sy’n cyhuddo gweinidogion o gyfleu “negeseuon cymysg” ac sy’n dweud mai ychydig iawn o amser sydd gan fusnesau i baratoi at y newidiadau.

Gan ateb cwestiwn ar Good Morning Britain ynghylch a yw’r polisi’n “siambls llwyr”, dywedodd Robert Jenrick nad yw’n derbyn hynny.

“O ganlyniad i’r rhaglen frechu rydyn ni’n gallu symud at gam newydd, a hwnnw’n un lle rydyn ni gyd yn beirniadu’r sefyllfa ein hunain,” meddai.

“Ond bydd rhaid i fusnesau a rhai sy’n rheoli rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n iawn ar gyfer eu sefyllfa.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n ffordd gall ymlaen.”

Mae’r canllawiau diweddaraf yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “disgwyl ac yn argymell” i fasgiau gael eu gwisgo gan weithwyr a chwsmeriaid mewn llefydd prysur a chyfyng.

Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd disgwyl i bobol sy’n teithio i Gymru ar drenau wisgo gorchudd wyneb wrth ddod i mewn i’r wlad.

“Llanast llwyr”

Yn Lloegr, bydd tafarndai, clybiau nos a bwytai’n cael eu hannog i wirio a yw cwsmeriaid wedi cael eu brechu neu eu profi cyn iddyn nhw gael mynediad.

Dywedodd Mark Drakeford na fydd e’n annog hynny i fusnesau yng Nghymru, ond fod y tystysgrifau brechu ar gael i unrhyw un yng Nghymru petai busnes yn penderfynu eu bod nhw am weld tystiolaeth.

Mae undeb TUC yn dweud bod canllawiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “rysáit ar gyfer llanast a chynnydd mewn heintiadau”, tra bod undeb USDAW, sy’n cynrychioli gweithwyr siopau, yn dweud bod y canllawiau’n “llanast llwyr” ac nad yw’n cynnig dim cysur i weithwyr na chwsmeriaid.

Disgwyl i bobol ar drenau wisgo gorchudd wyneb wrth ddod i mewn i Gymru

Mark Drakeford yn egluro’r drefn i deithwyr o’r tu allan i’r wlad wrth groesi’r ffin

Mark Drakeford yn “gynyddol hyderus” fod brechlynnau yn gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion Covid a salwch difrifol

Daw hyn wedi iddo gyhoeddi fod Cymru’n symud i lefel rhybudd un yn llawn ddydd Sadwrn