Mae Cadeirydd yr NFU yn poeni am y cynsail sy’n cael ei osod gan y gytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia.
Yn dilyn Brexit, mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio arwyddo cytundebau masnach gyda gwledydd ac fe wnaed cytundeb ‘mewn egwyddor’ rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Awstralia ym mis Mehefin.
Roedd Cadeirydd NFU Cymru, John Davies yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw (dydd Iau 15 Gorffennaf).
Yn ddiweddarach, dywedodd wrth Golwg360 “Mae’r cytundeb hwn yn gosod cynsail ar gyfer cytundebau masnach ar gyfer y dyfodol.
“Dyma oedd y cyfle i osod ein huchelgais i Gymru a Phrydain arwain y byd.”
“Gosod y bar yn isel iawn”
“Mae nifer o wledydd nawr yn aros i gael mynediad at ein marchnad ym Mhrydain ac yn gobeithio taro cytundebau, ac mae hyn yn gosod y bar yn isel iawn,” meddai John Davies.
“Mae cynsail yn bwysig, gan ei fod yn dangos beth i ni fel gwlad yn barod i dderbyn ac mae hyn yn gynsail gwael.”
Dyma gytundeb cyntaf y Deyrnas Unedig gyda gwlad arall ers gadael yr Undeb Ewropeidd, ac mae’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu fod y gallu i lunio cytundebau ein hunan yn un fanteision mawr Brexit.
O dan y cytundeb newydd, bydd Awstralia yn gallu anfon swm penodol o nwyddau amaethyddol i’r Deyrnas Unedig heb dalu tariffau.
Dros amser, bydd y cyfyngiadau (neu’r cwotâu) yn cynyddu i ganiatau mwy o nwyddau.
Ac, ar ôl 15 mlynedd, ni fydd cwotâu na thariffau ar gynnyrch amaethyddol.
Ond mae John Davies yn credu bod y cytundeb wedi methu â bodloni gofynion ffermwyr Cymru yn llawn.
“Gweithio at derfyn amser”
“Dwi’n meddwl bod y llywodraeth wedi bod yn gweithio at derfyn amser i ddod at gytundeb cyn y cyfarfod G7.
“Beth rwy’n amau yw nad oedd y pethau allweddol roeddwn i’n gofyn amdano ynglyn â’r amgylchedd, lles anifeiliaid, a gweledigaeth i’r dyfodol, wedi cael eu hystyried.”
Eisoes mae’r Adran dros Fachnach Ryngwladol wedi mynnu na fyddai unrhyw gytundeb gydag Awstralia yn bygwth “tanseilio ffermwyr y Deyrnas Unedig na chwaith yn cyfaddawdu ar ein safonau uchel o ffermio.”
‘Mynnu tegwch’
“Mae’n bwysig nodi dydyn ni ddim yn erbyn y cytundeb,” meddai John Davies.
“Ond, dyna’r oll rydym yn gofyn amdano yw tegwch i’n cymunedau, ein hiaith, a’n amaethyddiaeth, ac i’r ardaloedd gwledig a fydd yn cael cael eu tanseilio” meddai John Davies.
“Er enghraifft mae 62% o gig eidion Awstralia yn cael ei gynhrychu gan ffermydd sydd â chyrr o 10,000 o wartheg
“Dydy hynny ddim yn bodoli yng Nghymru o gwbl
“Rydym ni yng Nghymru yn credu mewn gwair da, bioamrywiaeth, natur… mae’n hollol wahanol yn Awstralia.”
Effaith y cytundeb ar y Gymraeg
“Rydym ni [NFU Cymru] yn cynrhychioli nifer uchel iawn o siaradwyr Cymraeg ar darws Cymru ac fe all y cytundeb gael effaith ar y cymunedau hyn,” meddai John Davies.
“Mi oedd yna gonsyrn o ran hynny ar draws pob plaid wleidyddol yng nghyfarfod pwyllgor [materion Cymreig] y bore ma.”
Pwrpas y cyfarfod heddiw oedd i archwilio goblygiadau’r cytundeb i amaethyddiaeth Cymru – mae un economegydd yn y maes eisoes wedi dweud y bydd y fargen yn effeithio’n “anghymesur” ar Gymru a’r Alban.
Ymhlith y meysydd i’w harchwilio mae effeithiau posibl mynediad di-dariff ar gyfer mewnforion o Awstralia, safonau cynhyrchu bwyd, a’r cynseiliau y gall y cytundeb eu gosod ar gyfer FTAs gyda gwledydd eraill.