Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol Cymru wedi dod ynghyd i ffurfio Maethu Cymru heddiw (15 Gorffennaf).

Daw hyn wrth i arolwg newydd ddangos fod dros draean (39%) o oedolion Cymru’n dweud eu bod nhw wedi ystyried dod yn ofalwyr maeth.

Er hynny, mae dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled y wlad bob blwyddyn.

Bydd timau dros y wlad yn cyfuno eu hymdrechion a’u harbenigedd i gynyddu nifer, ac amrywiaeth, y gofalwyr maeth mewn awdurdodau lleol drwy Maeth Cymru.

Mae’r rhwydwaith cenedlaethol newydd yn dod â’r 22 tîm ynghyd er mwyn gweithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth er mwyn cael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobol ifanc sydd angen gofal a chefnogaeth.

Ledled Cymru, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau parhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi i’r plant aros yn eu hardal pan mai dyna’r peth iawn ar eu cyfer.

“O fudd i blant”

Wrth lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, y bydd Maethu Cymru “o fudd i blant sy’n derbyn gofal”.

“Mae’n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy’n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod,” meddai Julie Morgan.

“Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy’n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol.”

“Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau’r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal.

“Mae Maethu Cymru yn rhan o’r broses o gyflawni’r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a’r bobl sy’n eu maethu.”

“Adeiladu hyder a lleihau straen”

Yn ôl y Cynghorydd Catherine Hughes, sy’n aelod o Gabinet Cyngor Ceredigion, bydd y rhwydwaith yn golygu cynnig cartref lleol iawn i blant, a chael hyfforddiant arbenigol lleol i ddatblygu sgiliau gofalwyr maeth posib.

“Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy’n cael eu recriwtio’n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i’r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i’n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal,” eglurodd Catherine Hughes, sy’n aelod Cabinet dros Gymorth Cynnar, a Chanolfannau Lles a Diwylliant.

“Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy’n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae’n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a’u synnwyr o hunaniaeth. Mae’n adeiladu hyder ac yn lleihau straen.

“Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi’r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o’u blaenau.”

“Chwalu’r mythau”

“Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant,” ychwanegodd Tanya Evans, sy’n aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

“Mae yna gannoedd o blant ledled Cymru ar hyn o bryd sydd â hawl i ffynnu ac mae arnynt angen rhywun yn eu cymuned i’w cefnogi a chredu ynddynt.

“Mae chwalu’r mythau ynghylch gofal maeth yn dasg allweddol. Er enghraifft, nid oes yr un dau blentyn yr un fath ac nid yw’r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes teulu maeth ‘nodweddiadol’.

“P’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu, p’un a ydych wedi priodi neu’n sengl. Beth bynnag fo’ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i’w cefnogi.”

  • Ystadegau yn seiliedig ar arolwg YouGov a gafodd ei gynnal rhwng 1 a 6 Gorffennaf.