Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, Syr Iain Duncan Smith, wedi rhybuddio Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod hi mewn “llanast ofnadwy” yn sgil y ffordd maen nhw’n gwneud cytundebau busnes gyda Tsiena.
Daw’r sylwadau wrth iddo gyhuddo gweinidogion o redeg “prosiect kowtow” wrth fethu ag atal ffatri yng Nghasnewydd rhag cael ei gwerthu i gwmni o Tsiena.
Mae bwriad i ffatri Wafer Fab, sy’n cynhyrchu microsglodion, gael ei phrynu gan Nexperia, o’r Iseldiroedd, sy’n berchen i gwmni technoleg busnes o Tsiena.
Dydi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn bwriadu ymyrryd “ar y funud” meddai’r Gweinidog Busnes, Amanda Solloway.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Iain Duncan Smith, a nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol eraill, godi pryderon ynghylch y pryniant, a diffyg pwerau sy’n caniatáu i weinidogion ymyrryd mewn cytundebau busnes a allai fod yn peryglu diogelwch cenedlaethol.
“Llanast ofnadwy”
“Dw i’n meddwl fod y Llywodraeth mewn llanast ofnadwy yn sgil hyn,” meddai Iain Duncan Smith.
“Dydi hi ddim help fod y Llywodraeth yn dweud wrthym ni fod yna wahaniaeth clir rhwng be sy’n strategol a be sydd ddim yn strategol.
“Dw i’n meddwl tybed, ynghanol y methiant hwn i wneud penderfyniadau, a wnaethon nhw edrych ar beth mae Tsieina’n feddwl ynghylch lled-ddargludyddion?
“Tsiena yw’r allforiwr mwyaf yn y byd, ac maen nhw’n brysur yn prynu technoleg lled-ddargludyddion ymhobman maen nhw’n gallu dod o hyd iddo.
“Maen nhw wedi adnabod technoleg lled-ddargludyddion fel un o’r meysydd hanfodol y maen nhw ei hangen er mwyn arglwyddiaethu’n fyd-eang, ac maen nhw’n brysur yn dwyn technoleg, cael hawliau eiddo deallus eraill, a phrynu cwmnïau.
“Mae’r syniad fod lled-ddargludyddion ddim yn strategol pan fydd y dechnoleg honno’n cael ei defnyddio ar gyfer bron popeth rydyn ni’n ei gwneud, popeth rydyn ni’n ei gynhyrchu sy’n electroneg, fy nadl syml yw: Ydyn ni mewn sefyllfa o ryw fath o brosiect kowtow, lle rydyn ni’n dweud yn syml ‘Mae’n rhaid i ni wneud busnes gyda’r Tsieineaidd waeth beth sy’n digwydd’?”
Ychwanegodd fod hyn yn “warthus”, bod rhaid atal y pryniant, ac y dylai fod wedi defnyddio Deddf Diogelwch Cenedlaethol a Buddsoddi er mwyn rhwystro’r cytundeb.
“Edrych yn fanwl”
Gan ymateb i sylwadau Iain Duncan Smith, dywedodd Amanda Solloway fod y Llywodraeth wedi “edrych yn fanwl” ar y pryniant, ac nad ydyn nhw’n ystyried ei bod hi’n addas ymyrryd ar y funud.
“Ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir yn y Pwyllgor Cyswllt yr wythnos ddiwethaf ei fod e wedi gofyn i’r Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol adolygu hyn,” meddai.
Mae cadeirydd Pwyllgor Materion Rhyngwladol Tŷ’r Cyffredin, Tom Tugendhat, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog hefyd i ofyn pam ei fod e wedi gofyn i’r Ymghynghorydd Diogelwch Cenedlaethol edrych ar y mater yn hytrach na defnyddio’r broses adolygu arferol.
“Does yr un buddsoddiad ariannol yn bwysicach na diogelwch y wlad,” meddai Tom Tugendhat.