Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “edrych eto” ar werthu ffatri yng Nghasnewydd i gwmni o Tsiena.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau Seneddol ei fod e wedi gofyn i’r Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol, Syr Stephen Lovegrove, archwilio amodau’r cytundeb i werthu ffatri Wafer Fab.

Yn ôl Boris Johnson, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â’r mater.

“Mae yna’r cwmni yma yng Nghasnewydd, mae’n rhaid i ni farnu a yw’r pethau maen nhw’n eu creu o werth a diddordeb eiddo deallusol gwirioneddol i Tsiena, a oes goblygiadau diogelwch gwirioneddol, rwyf wedi gofyn i’r Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol edrych arno,” meddai Boris Johnson.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwadu gofyn i weinyddiaeth Boris Johnson fynd i’r afael â’r mater.

“Dyw Llywodraeth Cymru heb wneud cais i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu pryniant Wafer Fab yng Nghasnewydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Byddai’r cytundeb, sydd werth £63 miliwn yn ôl adroddiadau, yn golygu fod y cwmni Nexperia o’r Iseldiroedd, sy’n eiddo i gwmni technoleg busnes o Tsiena, yn rheoli’r ffatri.

Mae’r cytundeb wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, a’r sector, ac mae’n golygu fod 400 o swyddi’n sâff ar y safle.

Cefndir

Yn gynharach heddiw (7 Gorffennaf), dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ei fod e’n “fodlon” fod risgiau diogelwch wedi’u hystyried yn llawn.

Yn groes i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi nawr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Simon Hart wrth ohebwyr “fod unrhyw beth sy’n cynnwys elfen Tsieineaidd yn siŵr o godi cwestiynau”, ond fod gwaith yr adran Strategaeth Ddiwydiannol a Menter Busnes yn “eithaf trylwyr ac eithaf treiddgar”.

Dywedodd fod swyddogion a gweinidogion wedi cymryd “elfennau diogelwch ynghylch pryniant [Wafer Fab]… hollol o ddifri.”

Ddoe (6 Gorffennaf) dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson eu bod nhw am barhau i asesu’r sefyllfa yn ofalus, ac na fydden nhw’n oedi cyn gweithredu, ond eu bod nhw ddim yn ystyried ei bod hi’n addas ymyrryd nawr.

“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad agos â Wafer Fab, Casnewydd. Allwn ni ddim rhoi sylw ar fanylion y trafodiad masnachol nag asesiadau diogelwch cenedlaethol yn amlwg, ond rydyn ni wedi ystyried y mater yn fanwl,” meddai’r llefarydd ddoe.

Fodd bynnag, mae Cadeirydd Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor San Steffan, Tom Tugendhat, wedi codi pryderon diogelwch ynghylch y pryniant, ac yn awgrymu y dylid ei adolygu.