Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn “annigonol a niwlog” medd Sian Gwenllian, Aelod Plaid Cymru dros Arfon.
Wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, fe ddywedodd fod y cynllun yn “yn ergyd i’r rhai sydd wedi bod yn aros yn amyneddgar am newid go iawn.
“Nid cynllun mohono, ond tri datganiad diffygiol ac amwys, heb fanylion.”
Mae cynllun newydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar rai o argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks drwy roi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai; cyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau; a defnyddio systemau treth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg i’r ardaloedd.
‘Angen gweithredu radical’
“Nid rŵan ydi’r amser i gynnal comisiwn ac ymgynghoriad, rŵan ydi’r amser ar gyfer y gweithredu ystyrlon a radical sydd ei angen ar ein pobl ifanc” meddai Sian Gwenllian.
Gwynedd sydd â’r nifer fwyaf o ail gartrefi – 5,098 sef 20% o gyfanswm Cymru gyfan, a dywed yr Aelod o’r Senedd dros Arfon fod ei etholwr o Lenberis wedi dweud wrthi fod y sefyllfa’n “dorcalonnus”.
“Mewn blwyddyn yn unig, mae 5 tŷ ar ei stryd wedi’u troi yn ail gartrefi neu dai haf.
“Dywedodd fod tai o’r fath, sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, yn newid gwead cymdeithasol y pentref.
“Mae amser yn brin. Mae’n pobl ifanc yn haeddu teimlo bod eu Llywodraeth ar eu hochr nhw.”
Mae Plaid Cymru yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod yna “ddeddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi, ynghyd â chaniatáu i gynghorau godi premiwm treth gyngor o hyd at 200 y cant ar ail gartrefi.
“Dylai’r Llywodraeth dreblu’r ffi Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo, cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartref gofrestru eu heiddo fel “busnes ”, a grymuso cynghorau i adeiladu tai ag amodau lleol.”