Bydd Sioe Amaethyddol 2021 yn cael ei chynnal ar-lein am yr ail flwyddyn yn olynol fis yma, ac mae Sioe Llanelwedd fel arfer yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cymdeithasol, masnach, a llesiant meddyliol ffermwyr, medd cyflwynydd Ffermio.

Yn ôl Meinir Howells, mae’r Sioe yn cynnig “ffenestr siop mor bwysig i’r cynnyrch sydd gyda ni fan hyn yn y wlad”, ac yn gyfle i ddathlu safon cynnyrch amaethwyr Cymru.

Gallai gwyliau a digwyddiadau mawr Cymru, fel Sioe Llanelwedd, gael eu gadael ar ôl “os nad oes dyddiad penodol ar gyfer dod â chyfyngiadau Covid i ben,” meddai trefnwyr y Sioe wrth BBC Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r sefyllfa bob tair wythnos, a bydd y cyhoeddiad nesaf yn digwydd yr wythnos nesaf.

“Gadael ar ôl”

“Mae’r gwahaniaethau ar draws y ffin yn achosi rhwystredigaeth, anfanteision masnachol a dryswch,” meddai Steve Hughson o Gymdeithas y Sioe Frenhinol.

“Mae yna ofnau y bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl.

“Rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar eu harweiniad gofalus ac ar y cynllun brechu ond bellach dyw gweithredu dull mor ofalus ddim yn gynaliadwy,” meddai.

“Allwn ni bellach ddim gweithredu fel hyn pan mae Lloegr a’r Alban yn agor. Fe fyddwn yn cael ein gadael ar ein pennau ein hunain.”

“Anodd heb y sioe”

“Mae hi wir yn anodd heb y Sioe, mae hi’n sicr yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn,” meddai Meinir Howells wrth golwg360.

“Mae pawb yn edrych ymlaen at y sioe, y peth cyntaf ’da chi’n ei roi yn y dyddiadur bron pan ry’ch chi’n cael dyddiadur newydd yw dyddiad y sioe.

“I ffermwyr mae o mor bwysig, dy’n ni ddim yn cael gwyliau, dy’n ni ddim yn mynd dramor achos mae hi’n anodd gadael y ffarm.

“Hwnna yw ein gwyliau ni, y brêc, switch off o waith y fferm.

“Chi’n mynd yna, a chi’n cwrdd â phobol chi falle ond yn gweld unwaith y flwyddyn, ond chi’n cadw mewn cysylltiad achos bod chi’n gweld eich gilydd yn y sioe yn flynyddol. ‘Smo chi’n trefnu fe, chi just yn cwrdd.

“Mae pawb just yna, os nagyw pawb yna mae rhywbeth yn bod!”

“Cyfle i ddathlu safon y cynnyrch”

“Mae e’n bwysig i iechyd meddwl ffermwyr, a hefyd i fusnes pobol achos pan ry’ch chi’n mynd â’ch anifeiliaid i’w harddangos yn y sioe mae e’n gyfle i hyrwyddo beth sydd gennych chi fel diadell, ond hefyd y brîd,” esboniodd.

“Mae e’n ffenestr siop mor bwysig i’r cynnyrch sydd gyda ni fan hyn yn y wlad, ac mae’n rhaid i ni gofio – mae gennym ni’r cynnyrch gorau yn y byd rili, a dylen ni fod yn falch o hynny.

“Yn y Sioe, mae’n gyfle i ddathlu safon y cynnyrch ry’n ni wedi’i gynhyrchu fel amaethwyr.

“Mae popeth yn y sioe – mae e fel y gacen berffaith. Mae gennych chi’r ochr gymdeithasol lle rydych chi’n gallu switch off i’ch iechyd meddwl, mae e’n gyfle i gwrdd â phobol, i siarad â phobol, a thrafod problemau.

“Wedyn mae’n gyfle i wneud busnes, naill ai drwy’r Undebau a phawb yn cael cyfarfodydd i drafod be sy’n y dyfodol, a’r ochr busnes o ran gwerthu eich cynnyrch chi.”

Ysbrydoli i wella cynnyrch

“Mae’n colli cyfle, mae’r sioe mor bwysig i gefn gwlad,” eglurodd Meinir Howells.

“Mae’n anffodus rili, mae’n rhyfedd o beth i esbonio pa mor bwysig yw’r Sioe.

“Mae fe’n ysbrydoli chdi i drïo gwella dy gynnyrch hefyd, fel pan ti’n bridio rhywbeth mae’n rhaid cael hwn yn iawn, rhaid cael hyn yn iawn, achos ni moyn ennill yn y sioe.

“Mae hwnna’n pwsio chdi ’mlaen i wneud e. Mae’n rhywbeth mor, mor bwysig i bawb rili – dim bwys pwy wyt ti, os ti’n byw yn y dref, yn y wlad neu yn y ddinas, mae’r Sioe yn bwysig ac mae rhywbeth yna i bawb.

“Mae e’n gyfle wedyn i bontio rhwng y wlad a thref, mae’n gyfle i bawb ddod at ei gilydd i ddeall be sy’n digwydd yn y wlad.”