“Yn fwy na dim dwi’n meddwl am ddyn hynaws oedd mor ddiymhongar” meddai Dr Huw Williams o Brifysgol Caerdydd, awdur bywgraffiad ‘Elystan: atgofion oes’, wrth dalu teyrnged i’r diweddar Elystan Morgan sydd wedi marw’n 88 oed.

Yn farnwr, yn aelod seneddol, ac yn arglwydd, roedd Elystan Morgan yn ffigwr blaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru.

Fe aned ym Mhen-y-garn, Ceredigion 1932 cyn mynd i astudio’r gyfraith yn Aberystwyth a gweithio fel cyfreithiwr yn Wrecsam am ddegawd.

‘Ddim yn ystyried ei hun yn un o’r cewri’

Wrth siarad â Golwg360 dywedodd Dr Huw Williams “na fydde Elystan ei hun yn disgrifio ei hun fel un o’r cewri. O’dd e’n syndod i fi cyn-lleied o’dd e’n ystyried ei gyfraniadau.

“Dyma rywun wedi cyfrannu cymaint yn ystod ei fywyd mewn cymaint o wahanol agweddau. R’odd falch o’i wreiddau a’i filltir sgwar yn falch o gynrychioli Sir Aberteifi yn Nhy’r Arglwyddi.

“Ond yn sicr ma fe’n un o’r cewri.”

Fe ddechreuodd ei yrfa wleidyddol gan sefyll dros Blaid Cymru teirgwaith yn etholaeth Wrecsam yn 1955 a 1959 ac ym Meirionydd yn etholiad 1964.

“Fe fu yn wleidydd ifanc a disglair gyda Plaid Cymru, yn y swyddfa Gartref i’r Blaid Lafur, yn cyfrannu gydag eraill fel Cledwyn Hughes am fwy o ymreolaeth i Gymru a sicrhau’r seiliau ar gyfer Refferendem ar Ddatganoli yn 1979” medd Dr Williams.

‘Gwthio’r achos dros Gymru o fewn y Blaid Lafur’

“Erbyn diwedd y 50au odd e wedi ffeindio ei hun mewn sefyllfa anodd a dyrys a dirdynol o fewn Plaid Cymru. Ro’dd e’n gweld mai’r ffordd o hybu Cymru o’dd trwy’r Blaid Lafur, a cheisio gwthio’r achos dros Gymru fel yna.”

Gadawodd Plaid Cymru yn 1965 ac fe etholwyd AS Llafur dros Geredigion yn etholiad 1966.

Bu’n weinidog yn y Swyddfa Gartref rhwng 1968 a 1970 ac yn gadeirydd ar y Blaid Lafur Seneddol rhwng 1971 a 1974.

Ond yn etholiad cyffredinol mis Chwefror 1974, fe gollodd ei sedd i’r Rhyddfrydwr, Geraint Howells.

Ym 1979, ceisiodd gael ei ethol yn ymgeisydd Llafur dros Ynys Môn, yn dilyn ymddeoliad Cledwyn Hughes, ond cafodd ei drechu gan y Ceidwadwr, Keith Best.

Yn dilyn hyn, fe ymddeolodd am gyfnod o’r byd gwleidyddol a chanolbwyntio ar ei yrfa gyfreithiol.

Ond aeth i Dŷ’r Arglwyddi fel yr Arglwydd Elystan Morgan yn 1981 ac fe gafodd ei wneud yn farnwr ym 1987.

“Ffigwr oedd yn mynd y tu hwnt i bleidiau gwleidyddol”

“Ma’n werth nodi pan ddychwelodd i Dy’r Awyddi yn 2005, fe eisteddodd fel croesfeinciwr, nid dros y Blaid Lafur sy’n amlygu pa fath o wleidydd o’dd e’n ystyried ei hun.

“Hynny yw, fel ffigwr o’dd yn mynd y tu hwnt i ffiniau pleidau mewn ffordd,” medd Dr Williams.

“Anhebygol iawn y gwelwn ni gymeriad fel Elystan eto. Dwi’n ei ystyried e fel ymgorfforiad o stori wleidyddol a chyfansoddiadol Cymru.

“Bu’n chwarae rhan bwysig yn stod cyfnodau pwysig hanes y genedl fel rhan o Blaid Cymru, Llafur a thros ddatganoli. Trwy’r ganrif ddiwethaf ddiwethaf ma Elystan wedi bod wrth galon y stori neu’r ddrama honno.”

Bu’n briod ag Alwen Roberts ers 1959. Wedi ei marwolaeth yn 2006 dywedodd amdani: “Buodd hi’n gefn ac yn ysbrydoliaeth i mi ym mhob peth.”

Mae Elystan Morgan yn gadael ei ddau o blant, Owain ac Eleri, a’u teuluoedd.

Teyrngedau Trawsbleidiol: “Ceredigion wedi colli un o’i meibion ​​mwyaf disglair”

Bu llu o ffigyrau gwleidyddol yn talu teyrnged i Elystan Morgan, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a drydarodd:

“Mae fy meddyliau heddiw gyda theulu’r Arglwydd Elystan-Morgan yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth. Roedd yn ymgyrchydd brwd ac ymroddedig dros ddatganoli, ac fe wnaeth ei waith diflino osod y sylfeini ar gyfer y Senedd sydd gennym heddiw.

“Roedd ganddo brofiad helaeth o fywyd gwleidyddol Cymru sy’n mynd yn ôl i’w etholiad yn y 1960au. Roedd hefyd ganddo ddealltwriaeth lawn o’r materion a wynebir gan Gymru, yn enwedig cymunedau Cymraeg gwledig, a gynrychiolai.”

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, bod “Ceredigion wedi colli un o’i meibion ​​mwyaf disglair”.

“Roedd yr Arglwydd Elystan Morgan yn ffigwr prin yn y byd gwleidyddol – yn wleidydd craff a gonest,” meddai Ben Lake.

“Roedd bob amser yn cyflwyno ei achos gyda huodledd wedi’i seilio ar egwyddorion cadarn, a chyda dealltwriaeth feistrolgar o’r manylion.

“Roedd ei allu i ymdrin â phobl a materion gwleidyddol gyda charedigrwydd a digon o hiwmor, hyd yn oed yn ystod y dadleuon gwleidyddol mwyaf ymrannol a thanllyd, yn rhywbeth y dylem i gyd anelu ato.

“Ar ran Plaid Cymru, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i ffrindiau.”

Trydarodd y Llywydd, Elin Jones, AoS Ceredigion i “ddiolch am ei gyfraniad gwerthfawr i’w fro, ei iaith a’i genedl.”

“Roedd Elystan yn ymgorfforiad o’r gwyrdd a’r coch yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn bencampwr di-ildio ar drosglwyddo grym o Senedd San Steffan i Senedd Cymru, meddai Elin Jones.

“Er cyrraedd uchelderau’r byd cyfreithiol a gwleidyddol mi roedd ei wreiddiau a’i gartref yn perthyn wastad i’w fro enedigol yng Ngheredigion’

A thrydarodd Paul Davies AoS, cyn-Arweinydd y Torïaid yn y Senedd:

“Trist iawn clywed y newyddion hyn. Er bod fy nhad yn Geidwadwr cadarn, roedd yn arfer dweud bob amser mai Elystan Morgan oedd yr AS etholaethol gorau a gafodd Sir Aberteifi erioed.”