Mae yna gymaint mwy y gellir ei wneud i wella’r amrywiaeth ymysg cynghorwyr awdurdodau lleol Cymru, meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru.

Ar hyn o bryd, 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, gyda’r ganran yn dipyn is mewn rhai awdurdodau lleol eraill.

Er bod ymdrechion gan rai awdurdodau, ac mewn rhai siroedd, i gau’r bwlch, mae Jess Blair yn dweud ei bod hi’n amser ystyried gosod targedau cyn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf.

Mae Sir Fynwy eisoes wedi gosod targed o gael 50% o’u cynghorwyr yn fenywod, ond mae Jess Blair yn dweud ei bod hi’n anodd gwybod a fydd hyn yn cael unrhyw effaith gan na fydd yn ofyniad statudol.

Yn ogystal, mae hi’n pwysleisio pa mor bwysig yw cael annog croestoriad o bobol i sefyll fel ymgeiswyr.

Ar hyn o bryd, does dim ystadegau swyddogol yn bodoli ar gyfer pob cyngor lleol, ac mae hynny’n un o’r pethau sydd ei angen er mwyn gallu mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth, meddai Jess Blair.

Er hynny, mae’n debyg mai Ynys Môn, Merthyr Tudful, a Cheredigion sydd â’r canrannau isaf o fenywod ar eu cynghorau gyda’r ganran rhwng tua 10% a 12%.

Mae rhan fwyaf o’r cynghorau ymhell o gyrraedd 50%, gyda’r canrannau uchaf yn Nhorfaen, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe gyda thua 40-45% o’r cynghorwyr yn fenywod yn y tri awdurdod.

Data demograffeg

“28% oedd y dadansoddiad y gwnaethon ni wneud ar adeg yr etholiadau lleol diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru a Chwarae Teg yn defnyddio’r un ganran,” esboniodd Jess Blair wrth golwg360.

“Dyna’r unig ffigwr sydd ar gael.

“Un o’r pethau rydyn ni wedi bod yn galw amdanyn nhw, ar lefel leol a chenedlaethol, yw am weithredu Adran 106 o’r Ddeddf Cydraddoldeb a fyddai’n sicrhau fod pob plaid wleidyddol yn gorfod casglu a chyhoeddi data demograffeg am eu hymgeiswyr.

“Byddai hynny’n cynnwys popeth o ryw, oed, ethnigrwydd a hil, anableddau, rhywioldeb, pethau felly a fyddai’n rhaid eu casglu a’u cyhoeddi.

“Mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn ni ei weld yn fawr, ac yn absenoldeb hynny mae’n fater o fynd trwy records a gweld hynny, ond mae o’n sicr yn broblem.”

“Adlewyrchu’r cymunedau”

“Mae yna lot y gallwn ni ei wneud i wella’r amrywiaeth yn ein cynghorau, a phan dw i’n siarad am amrywiaeth dw i’n golygu mewn pob math o ffyrdd fel rhywedd, ethnigrwydd a hil, anableddau,” eglurodd Jess Blair.

“Mae o’n ymwneud â sicrwydd fod ein cynghorau yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n draddodiadol yn ‘pale, male a stale’, ac mae nifer o bethau y gellir ei wneud am hynny.

“I ddechrau byddai casglu a chyhoeddi data yn gywir yn hanfodol iawn, fel ein bod ni’n gallu mesur y stwff yma.

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni wedi cael problemau gydag amrywiaeth yn ein llywodraethau lleol ers mor hir nawr, ac mae cyn lleied o fesurau wedi gweithio ei bod hi’n amser meddwl yn fwy, a meddwl os ydyn ni angen sicrhau fod targedau mewn lle ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Ac ar ôl hynny, ydyn ni angen gwneud mesurau statudol neu osod cwota a fydd yn sicrhau cynyddu amrywiaeth.

“Mae Sir Fynwy wedi cytuno ychydig o wythnosau’n ôl i fabwysiadu targed o 50% o bob rhyw ar gyfer yr etholiad flwyddyn nesaf, sy’n gynnydd da, yn amlwg,” meddai.

“Mae gennym ni lai na blwyddyn i fynd tan yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf, a dydyn ni heb weld fawr ddim o gynnydd.

“Felly mae’n dda bod un awdurdod yn arwain y ffordd.

“Beth sydd ar ôl i’w weld yw pa mor effeithiol fydd y targed. Targed yw e, dim byd sy’n rhwymol yn gyfreithiol.”

“Trafodaethau am groestoriad”

“A be fysa ni’n hoffi ei weld fysa trafodaethau am groestoriad, felly nid menywod gwyn yn unig sy’n cael eu hannog i sefyll,” pwysleisiodd Jess Blair.

“Rhaid iddo fod yn gymysgedd llawer mwy amrywiol o fenywod, ac yn adlewyrchu’r boblogaeth gyfan mewn ffordd llawer gwell.

“Heb yr ystadegau mae’n anodd. Er ein bod ni’n gwybod nad yw cynghorau’n amrywiol ar y funud, dydyn ni methu rhoi ein bys arno fo.

“Yn arbennig efo’r Senedd yn ystyried diwygio ac a fydd cwota yn cael eu defnyddio yno, dydi hi ond yn iawn fod yr un peth yn digwydd mewn llywodraeth leol hefyd.”