Mae Arlywydd Haiti, Jovenel Moise, wedi cael ei saethu’n farw ar ôl i grŵp o bobl ymosod ar ei gartref, meddai prif weinidog dros dro’r wlad, Claude Joseph, mewn datganiad.
Mae gwraig yr Arlywydd, Martine Moise, yn yr ysbyty ar ôl cael ei hanafu yn yr ymosodiad.
Daw’r digwyddiad nos Fawrth (6 Gorffennaf) yn dilyn ansefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd yn y wlad Garibïaidd.
Mae Claude Joseph wedi condemnio’r ymosodiad gan ei ddisgrifio fel “gweithred atgas, annynol a barbaraidd.”
Dywedodd bod heddlu Haiti a’r awdurdodau wedi dod a’r sefyllfa o dan reolaeth.