Bydd Stryd Fawr Bangor yn cael ei hailagor i gerbydau o heddiw ymlaen (dydd Mercher, Gorffennaf 7).

Cafodd rhan o’r stryd ei chau yn Rhagfyr 2019 wedi tân ym mwyty Noodle One.

Golygodd hynny bod rhaid adeiladu sgaffaldiau i sicrhau diogelwch yr adeilad, a maes o law, bu’n rhaid dymchwel rhan o’r safle.

Ni ddechreuodd y gwaith hwnnw tan Ebrill 2021 oherwydd cymhlethdodau technegol a chyfreithiol.

Roedd disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau adeg y Pasg llynedd, ond roedd y pandemig hefyd wedi achosi oedi.

Pan ddechreuodd y gwaith o ddymchwel yr adeilad rai misoedd yn ôl, dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn cydnabod yn llwyr yr effaith a’r aflonyddwch y mae’r sefyllfa yma wedi’i achosi i drigolion a masnachwyr lleol. Rwy’n hynod falch felly ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gall gwaith nawr ddechrau ar y safle, gyda’r golwg i ail-agor y rhan yma o’r Stryd Fawr i draffig cyn gynted â phosib.”

Dros yr wythnos diwethaf, cafodd y gwaith terfynol ei gwblhau, a chafodd y ffordd ei hagor eto am 9 y bore ma.