Bydd Llywodraeth y DU yn tanseilio datganoli pe bai nhw’n sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru a’r Alban heb gytundeb â’r llywodraethau datganoledig..
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi awgrymu eu bod am fwrw ymlaen heb ganiatâd y llywodraethau datganoledig i adeiladu porthladdoedd rhydd.
Ond mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi ymrwymo i weithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru: “Mae hyn yn annerbyniol i ni, ac rydym wedi’i gwneud yn glir bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos yr un faint o ymrwymiad i borthladdoedd Cymru ag i rai Lloegr.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio ei hadnoddau fel ei bod yn gwireddu un o flaenoriaethau polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig. ”
Mae gweinidogion Cymru a’r Alban wedi dweud y byddant yn herio’n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu ar faterion datganoledig.
Mae nhw hefyd yn galw am eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran tegwch ariannol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn amharod i sicrhau y byddai’r arian sy’n cael ei neilltuo ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru a’r Alban yn gyfatebol i’r gwariant yn Lloegr.
‘Gwerth eu harian’
Yn ôl Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, mae pryder a fydd Cymru yn cael bargen deg wrth sefydlu’r porthladdoedd.
“Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym am sicrhau bod porthladdoedd rhydd yn rhoi gwerth ein harian i ni.
“Rydyn ni’n cydnabod, heb ein cefnogaeth, y byddai porthladd rhydd yng Nghymru yn llai deniadol ac yn llai cystadleuol na’r rheini yn Lloegr.
“Ond mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â thrafod yn adeiladol â ni yn awgrymu y byddai’n well ganddi fentro tanseilio datganoli trwy greu porthladd rhydd diffygiol heb ein cefnogaeth na gweithio gyda ni a dod â buddiannau i Gymru.”
‘Angen trafodaeth frys’
Nid oes cynnig ffurfiol wedi ei wneud hyd yma ond mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu eto at Lywodraeth y DU i ofyn am drafodaeth frys i fynd i’r afael â’r cynlluniau.
Yn yr Alban, mae ei llywodraeth wedi bod yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod cynigion ar gyfer y porthladdoedd rhydd yn “adlewyrchu anghenion busnesau a chymunedau’r Alban”.
Ar hyn o bryd mae nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i addasu’r cynnig fel y bydd y ‘porthladdoedd gwyrdd’ (addasiad i’r cynllun porthladdoed rhydd) yn cael eu sefydlu ynghyd â phecyn o gymorth i fusnesau.
Mae nhw hefyd am weld y cynnig yn cael ei seilio ar arferion gwaith teg gan gyfrannu at drawsnewid yr economi ac allyriadau net sero.
Yn ôl Gweinidog Busnes yr Alban, Ivan Mckee, bydd ei lywodraeth yn sicrhau nad yw adeiladu porthladdoedd gwyrdd yn mynd yn groes i ddatganoli.
“Bydd Llywodraeth yr Alban yn herio unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddeddfu mewn maes datganoledig. Byddai hynny’n mynd yn groes i ysbryd y setliad datganoli.
“Mae Llywodraeth yr Alban yn parhau’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ond ni allwn gefnogi polisi ganddi sydd ddim yn parchu datganoli.”
Beth yw Porthladdoedd Rhydd?
Dyw nwyddau tramor sy’n cyrraedd porthladdoedd a meysydd awyr sydd â statws ‘porthladd rhydd’ ddim yn cael eu heffeithio gan dariffau.
Dim ond os yw’r nwyddau’n gadael y porthladd rhydd ac yn cael eu symud i rywle arall yn y Deyrnas Unedig y mae’r dreth honno’n daladwy.
Fis Mai fe gyhoeddodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn creu porthladd rhydd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried creu deg porthladd rhydd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Caergybi, Aberdaugleddau, Port Talbot, Abertawe, Casnewydd, Caerdydd, Maes Awyr Caerdydd a’r Barri ymhlith y porthladdoedd a fyddai, fwy na thebyg, yn rhoi cais am statws o’r fath yng Nghymru.