Mae busnesau annibynnol y stryd fawr yn wynebu “mynydd o ddyled” ar ôl benthyca arian yn ystod y pandemig, ac angen help y Llywodraeth i oroesi, yn ôl adolygiad annibynnol.

Mae busnesau bellach mewn dyled bedair gwaith yn fwy nag oedden nhw flwyddyn yn ôl, meddai cyn-bennaeth Wickes ac Iceland Bill Grimsey, yn ei adroddiad diweddaraf.

Mae Adroddiad Grimsey yn nodi bod benthyca ar gyfer busnesau annibynnol yn £483 miliwn cyn y pandemig, ond bod benthyciadau ychwanegol drwy Fenthyciadau Adfer Covid-19 [Bounce Back Loans] tua £1.7bn.

Yn ôl yr adroddiad roedd nifer o fusnesau annibynnol wedi profi “gwerthfawrogiad o’r newydd” yn ystod y cyfnod clo.

“Ond maen nhw wedi cael eu gorfodi i gymryd benthyciadau gan y Llywodraeth, na fydden nhw fel arfer wedi llwyddo i gael. Nawr, maen nhw’n ei chael hi’n anodd rheoli’r mynydd o ddyled ac angen help,” meddai Bill Grimsey.

Dywedodd yr arbenigwr y llynedd bod bron i hanner busnesau mewn perygl o “fynd i’r wal” cyn y pandemig ond bod y cynnydd mewn siopau ar-lein wedi rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw gan ddweud “mae’r hen stryd fawr ar ben.”