Cafodd nifer uwch nag erioed o droseddau hil a chrefydd eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2020, gyda dros chwarter yr ymchwiliadau’n dod i ben cyn i’r troseddwyr gael eu dwyn i gyfrif.
Effaith y cyfnod clo, ynghyd â phrotestiadau’n cefnogi Black Lives Matter, oedd y ddau brif reswm pam y bu cynnydd mewn troseddau, yn ôl lluoedd heddlu.
Mae’n debyg fod gwelliannau mewn adrodd troseddau casineb wedi cyfrannu at y cynnydd hefyd.
Heddlu Dyfed Powys welodd y cynnydd blynyddol mwyaf yng Nghymru, gyda 355 o droseddau yn 2020 a 239 yn 2019 – cynnydd o 49%.
Dros Gymru a Lloegr, roedd cynnydd o 7% rhwng 2019 a 2020, gyda 61,851 o droseddau hil a chrefydd wedi’u cofnodi.
Bu cynnydd o fewn holl luoedd Cymru, gyda chynnydd o 10% yng Ngwent a’r ffigwr yn cynyddu o 383 i 422, 8% yn Ne Cymru o 1,075 i 1,157, a 5% yng Ngogledd Cymru o 401 i 420 trosedd.
Mae’r troseddau hyn yn cynnwys ymosodiad gwaethygedig ar sail hil neu grefydd, yn ogystal ag ymosodiad heb anaf, aflonyddu, difrod troseddol, ac achosi ofn cyhoeddus, gofid neu ddychryn ar yr un sail.
“Nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol”
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, bu cynnydd mewn troseddau yn gysylltiedig â’r tensiwn cymdeithasol rhwng Cymry a Saeson yn ystod y cyfnodau clo.
Bu cynnydd sylweddol mewn troseddau yn ystod yr hydref hefyd, yn dilyn sefydlu Gwersyll i Geiswyr Lloches ym Mhenalun, Sir Benfro meddai’r llu.
“Mae Heddlu Dyfed Powys yn cymryd troseddau casineb yn llwyr o ddifri. Mae llawer o waith wedi’i wneud yn y llu er mwyn cynyddu hyder ac ymddiriedaeth wrth adrodd troseddau casineb felly roedden ni’n disgwyl cynnydd mewn adroddiadau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.
“Fe wnaeth ymchwil 100% o droseddau casineb ailddechrau yn 2020 ac fe wnaeth hyn ddal unrhyw droseddau pellach oedd angen eu cofnodi, yn unol â bwriad y llu i wella cywirdeb ei hystadegau trosedd.
“Rydyn ni wedi lansio arf newydd i asesu risg troseddau casineb hefyd, sy’n caniatáu i ni ddeall y materion yn well; mae adborth gan ddioddefwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn a gallai gyfrannu at gynnydd mewn ymddiriedaeth ynom wrth adrodd troseddau.
“Ar ben hyn, bu nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol llynedd, a gafodd effaith ar nifer y troseddau casineb gafodd eu hadrodd i ni.
“Yn ystod y pandemig a’r cyfnodau clo cysylltiedig, gwelsom gynnydd yn y fath droseddau yn sgil tensiynau cymdeithasol ynghlwm â throseddau Saeson ar Gymry a Chymry ar Saeson. Roedd y rhain yn ymwneud ag ail gartrefi, pobol yn teithio dros y ffin i wneud eu siopa, pobol yn teithio yn groes i reoliadau, ac yn y blaen.
“Y llynedd hefyd, gwelwyd nifer o brotestiadau’n cefnogi Black Lives Matter, a arweiniodd at gynnydd mewn adrodd am y troseddau dan sylw.
“Fe wnaeth y llu weld cynnydd sylweddol mewn lefelau adrodd ar gyfer y troseddau hyn yn ystod hydref 2020 yn dilyn sefydlu Gwersyll i Geiswyr Lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, a wnaeth ddenu nifer o brotestiadau a gwrth-brotestiadau dros sawl wythnos.”