Mae nifer y bobl sydd wedi marw yn dilyn llifogydd difrifol mewn rhannau o orllewin yr Almaen a Gwlad Belg wedi cynyddu i fwy na 90 heddiw (dydd Gwener, 16 Gorffennaf), wrth i’r chwilio barhau am gannoedd o bobl sy’n dal ar goll.

Yn ôl yr awdurdodau yn nhalaith Rhineland-Palatinate yn yr Almaen, roedd 50 o bobl wedi marw yno. Yn y dalaith gyfagos yng ngogledd Rhine-Westphalia dywedodd swyddogion bod nifer y meirw yn 30 ond y gallai’r ffigwr yna gynyddu ymhellach.

Yng Ngwlad Belg, mae adroddiadau bod o leiaf 12 o bobl wedi marw yn y wlad.

Roedd y llifogydd yr wythnos hon yn dilyn dyddiau o law trwm gan achosi i nentydd ac afonydd orlifo’u glannau gan achosi difrod i geir a chartrefi.

Mae Canghellor yr Almaen Angela Merkel wedi estyn ei chydymdeimlad i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y llifogydd.

Dywedodd yr arweinydd, sydd ar ymweliad a Washington yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, ei bod yn ofni “na fyddwn ni yn debyg o weld maint y niwed o ganlyniad i’r trasiedi yma yn y dyddiau nesaf.”