Mae adroddiad newydd yn dangos fod y pandemig wedi amlygu effaith anghydraddoldebau ariannol ar iechyd meddwl.

Yn ôl ymchwil Mind Cymru, sy’n elusen iechyd meddwl, mae pobol sy’n derbyn budd-daliadau wedi’u taro’n arbennig o galed ac â phroblemau sy’n gynyddol ddifrifol a chymhleth.

Dangosa’r ymchwil hefyd fod pobol a oedd yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl cyn y pandemig wedi’u heffeithio waethaf, a bod pobol ifanc yn enwedig yn ei chael hi’n anodd ymdopi.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gwaethygu, ac maen nhw’n cydnabod hefyd fod angen cefnogaeth tu hwnt i wasanaethau iechyd meddwl i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Canfyddiadau

Roedd yr ymchwil, sy’n edrych ar bobol sydd gyda phroblemau iechyd meddwl yn hytrach na’r boblogaeth gyfan, yn dangos fod 68% o bobol ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.

O gymharu, dywedodd 63% o oedolion fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers mis Mawrth 2020, ac roedd i bron i hanner y rhai holwyd, yn oedolion a phobol ifanc, yn dweud fod eu hiechyd meddwl wedi mynd yn llawer gwaeth.

Erbyn tua diwedd y trydydd cyfnod clo cenedlaethol, dywedodd 42% o’r oedolion a 53% o’r bobol ifanc fod eu hiechyd meddwl yn wael neu’n wael iawn.

Er hynny, dywedodd 22% o oedolion ac 14% o bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl wedi gwella ers y cyfnod clo cyntaf, gydag ymchwil yn dangos fod rhai gyda gor-bryder cymdeithasol ac awtistiaeth wedi mwynhau cael cyfnod i ddod at eu hunain heb bwysau cymdeithasol.

Roedd pobol sy’n derbyn budd-daliadau’n debycach o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ystod y pandemig, gyda dros hanner (59%) o’r rhai gymerodd ran yn yr arolwg ac oedd yn byw mewn cartref oedd yn derbyn budd-daliadau ar y pryd yn dweud fod eu hiechyd meddwl yn wael neu’n wael iawn. Mae hyn cymharu â 34% o rai nad ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau.

Ffactorau

Roedd diffyg cysylltiad personol gydag anwyliaid, unigrwydd a phryderon am ddal neu ledaenu’r coronafeirws ymysg y pethau oedd wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl.

Unigrwydd effeithiodd ar bobol ifanc waethaf, gyda 87% yn dweud ei fod wedi gwneud ei hiechyd meddwl yn waeth.

Cafodd trefniadau gweithio newydd effaith gymysg ar iechyd meddwl pobol, gyda 44% yn dweud fod gweithio o adref wedi gwaethygu eu hiechyd meddwl a 35% yn dweud ei fod wedi gwella eu hiechyd meddwl.

“Buddsoddi’n gyflym”

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae elusen Mind Cymru’n dweud bod angen cefnogi’r rhai sydd angen cefnogaeth fwyaf, a chynyddu dealltwriaeth o anghenion cymhleth pobol.

Maen nhw hefyd yn nodi bod angen rhoi dewis i bobol, fel eu bod nhw’n gallu dewis pa fath o gefnogaeth fydden nhw’n hoffi’i chael, a hybu hunangyfeirio.

Yn ôl Nia Evans, rheolwr plant a phobol ifanc Mind Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru ddeall bod angen buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc yn gyflym.

“Ry’n ni’n ymwybodol iawn y bydd y pandemig ag effeithiau pellgyrhaeddol i iechyd meddwl pobl ifanc,” meddai Nia Evans wrth Newyddion S4C.

“Dyddiau cynnar yw hi o hyd o ran effaith y cyfnodau clo, ond mae mwy a mwy o dystiolaeth bod y rheiny wedi cael effaith anghyfartal ar bobl ifanc.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gyhoeddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond mae hwnna i weld yn eithaf araf.

“Ry’n ni’n ymgyrchu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn clywed lleisiau’r bobl ifanc yma ac yn deall bod angen buddsoddi’n gyflym a sicrhau bod effeithiau’r buddsoddiad wir yn cael eu teimlo gan y bobl ifanc yma.”

Cymerodd 650 o oedolion dros 25 oed sy’n byw yng Nghymru ran yn yr arolwg, yn ogystal â 106 o bobol ifanc rhwng 13 a 24 oed, a chafodd yr ymchwil ei gynnal rhwng 25 Mawrth a 10 Mai, gan orffen wrth i’r cyfnod clo ddod i ben.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r pandemig yn cael effaith enfawr ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y math cywir o gymorth ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl wedi bod yn flaenoriaeth i ni drwy gydol y pandemig ac rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau haws eu defnyddio, nad oes raid cael meddyg i gyfeirio pobl atynt.

“Ond rydym yn gwybod bod mwy i’w wneud. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi’n glir y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn buddsoddi £42 miliwn o arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i wella cymorth iechyd meddwl.

“Er mwyn ymateb i effaith y pandemig ar iechyd meddwl bydd angen dull gweithredu amlochrog gan sawl asiantaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Mind Cymru, i wneud hyn.”