Mae canllaw newydd i helpu cynghorau sir i gynllunio, dylunio a darparu llwybrau cerdded a beicio wedi’i lansio heddiw (16 Gorffennaf).
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £75 miliwn mewn teithio llesol eleni er mwyn darparu llwybrau o ansawdd uchel ar draws y wlad, i sicrhau fod pobol yn teimlo’n ddiogel wrth adael eu ceir a beicio neu gerdded.
Teithio llesol yw cerdded a beicio yn hytrach na defnyddio ceir a cherbydau.
Mae’r Canllaw i’r Ddeddf Teithio Llesol yn cyfuno’r cyngor blaenorol a’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar y mater, gan ddisgrifio’r hyn mae disgwyl i gynghorau ei wneud wrth baratoi seilwaith gydag arian Llywodraeth Cymru.
Dangosa arolwg diweddar gan Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru fod 49% o’r bobol a gafodd eu holi’n poeni nad yw’r ffyrdd yn ddiogel ar gyfer beicwyr.
Dywedodd 59% o rieni nad ydyn nhw’n teimlo ei bod hi’n ddiogel i’w plant feicio ar ffyrdd lleol.
“Rhaid gweithredu nawr”
Yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, mae’n rhaid cael seilwaith yn ei lle er mwyn annog pobol i deimlo’n ddiogel yn cerdded a beicio.
“Rydyn ni’n gwybod bod cael pobl ma’s o’u ceir ar gyfer teithiau byr i gerdded a beicio yn amcan uchelgeisiol, ond os ydyn ni am daro’r nod o fod yn ddi-garbon net erbyn 2050, rhaid gweithredu nawr,” meddai Lee Waters, sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth hefyd.
“Mae cael y seilwaith iawn yn ei le yn allweddol i annog mwy o bobl i deimlo’n ddiogel i gerdded a beicio a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi arian mawr mewn teithio llesol eleni.
“Mae’r canllaw dwi wedi’i gyhoeddi heddiw’n esbonio sut ydym yn disgwyl i gynghorau gymryd camau uchelgeisiol a beiddgar i ddatblygu seilwaith newydd, i gael mwy o bobl i deimlo’n hyderus i newid y ffordd y maen nhw’n teithio, er lles eu hiechyd a’u lles ac i leihau eu heffaith ar ein hamgylchedd.”