Un o gynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yw ei Phrif Weithredwr newydd.

Yn wreiddiol o Abertawe, mae Carl Harris yn 36 oed ac ar hyn o bryd yn Bennaeth Strategaeth y Blaid.

Bydd yn cychwyn ei swydd newydd ar 1 Awst, gan lenwi esgidiau Marc Phillips a fu yn Brif Weithredwr dros dro ers dechrau’r flwyddyn.

Mae Carl Harris wedi gweithio i Blaid Cymru am ddegawd gan gynnwys cyfnod yn Bennaeth Staff yn Swyddfa etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Alun Ffred yn hapus

Mae Cadeirydd Plaid Cymru wrth ei fodd gyda’r penodiad.

 “Yn dilyn proses recriwtio drylwyr a chystadleuol, mae’n bleser croesawu Carl Harris i rôl y Prif Weithredwr,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae Carl yn barod wedi gwasanaethu’r Blaid yn ddiflino am ddegawd a mwy a bydd ei brofiad o weithio o fewn etholaeth ac yn genedlaethol yn gaffaeliad i’r Blaid wrth iddo ymgymryd â’i ddyletswyddau newydd.

“Gyda chyfnod cyffrous o adeiladu ac adfywio o’n blaenau gwn fod y Blaid mewn dwylo saff.”

Pleidiwr rhonc yn rhannu ei uchelgais

Mae Carl Harris yn gyn-Ddirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a gwasanaethodd fel Is-gadeirydd Cymru X, cyn-Adran Ieuenctid Plaid Cymru.

Yn 2017 fe’i hetholwyd i gynrychioli Ward Saron ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ar ôl ennill sedd a fu yn nwylo Llafur am 13 blynedd.

 “Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio o fewn teulu Plaid Cymru am nifer o flynyddoedd, a gyda’r balchder a gostyngeiddrwydd mwyaf y cymeraf y rôl fel Prif Weithredwr ein plaid,” meddai Carl Harris.

“Cryfder Plaid Cymru yw ei haelodau llawr gwlad ac ymdrechion diflino ein gwirfoddolwyr a’n staff.

“Rwy’n gweld fy rôl fel un o rymuso a chefnogi: meithrin y berthynas rhwng y swyddfa ganolog a’n rhwydweithiau o ganghennau ac etholaethau, ac adeiladu’r Blaid i sefyllfa lle rydym yn fwy abl i fuddsoddi yn ein haelodaeth a’n hymgyrchoedd ledled y wlad.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r aelodaeth i helpu i chwarae fy rhan wrth adeiladu ac adnewyddu’r Blaid.”

Chwech wedi ceisio am y swydd

Fe lwyddodd Carl Harris i drechu pump ymgeisydd arall, fel yr eglura’r Blaid mewn neges i’w haelodau am y broses benodi:

Bu rhaglen recriwtio pedwar cam a llywiwyd y broses gan y Pwyllgor Personel. Ystyriwyd chwech ymgeisydd. Cafwyd profion seicometrig, prawf ysgrifenedig, sesiynau trafod rhwng yr ymgeiswyr a phanel yn cynrychioli rhai o Adrannau’r Blaid a chyfweliadau ffurfiol gan y Cadeirydd, Arweinydd Grŵp San Steffan, dirprwy Arweinydd Grŵp y Senedd, y Cyfarwyddydd Trefniadaeth a Chadeirydd y Pwyllgor Personel.