Mae ymateb y Drefn Gyfiawnder i achosion o dreisio “yn aml yn brin o ffocws, eglurder ac ymrwymiad”.

Bu cwyno mawr ers blynyddoedd bod y nifer sy’n cael eu herlyn yn llwyddiannus a’u carcharu am dreisio yn sobor o isel.

Y llynedd dim ond 1.6% o gwynion am drais wnaeth arwain at ganfod dihirod yn euog.

Mewna adroddiad mae arolygwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cydnabod fod yna “ddiwylliant o weld bai ar ei gilydd” ymysg yr heddlu ac erlynwyr.

“Mae angen newid brys a sylfaenol yn y modd yr ymchwilir i, ac yr erlynir achosion o dreisio” – dyna gasgliad Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Yn eu hadroddiad maen nhw’n cyfeirio at ddiwylliant o “bwyntio bys” a “rhaniadau dwfn o fewn y system gyfiawnder”.

Noda’r adroddiad:

‘Ar lefel genedlaethol, mae llawer o weithgarwch i wella’r ymateb i drais rhywiol.

‘Ond o dan yr wyneb mae yna densiynau sylfaenol parhaus rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac awydd ar y ddwy ochr i feio’r naill a’r llall am gyfraddau erlyn isel.’

Daw’r adroddiad yn dilyn adolygiad o achosion o dreisio’r Llywodraeth, a gyhoeddwyd fis diwethaf.

‘Y system yn methu dioddefwyr’

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y ’diffyg ymateb’ sydd yna i achosion o dreisio.

“Gwelsom hefyd nad yw’n rhoi dioddefwyr wrth wraidd adeiladu achosion cryf,” meddai’r awduron.

Cafwyd 1,439 o bobl dan amheuaeth yn euog o drais rhywiol neu droseddau llai yng Nghymru a Lloegr y llynedd – y lefel isaf ers i gofnodion ddechrau.

Amcangyfrifir bod 128,000 yn cael eu treisio neu yn dioddef ffurf ar drais rhywiol y flwyddyn, ond dim ond 1.6% o’r achosion sy’n arwain at erlyniad.

Gwnaeth yr adroddiad lu o argymhellion gan gynnwys sut y dylai’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gydweithio â’i gilydd.

“Angen i’r awdurdodau berchnogi’r broblem”

Fe ddywedodd Wendy Williams, Arolygydd Cwnstabliaeth a Phrif Arolygydd, Antony Rogers fod y Drefn Gyfiawnder yn methu rhoi chwarae teg i ddioddefwyr.

“Yn anffodus, nid yw’n newyddion i unrhyw un bod dioddefwyr trais yn rhy aml ddim yn cael cyfiawnder,” meddai’r awduron yn eu hadroddiad.

“Mae’r heddlu ac erlynwyr yn beio ei gilydd, ac yn pwyntio at setiau data gwahanol i gefnogi eu safbwynt.

“Mae achosion llwyddiannus yn dibynnu ar yr heddlu ac erlynwyr yn gweithio fel tîm. Rhaid iddynt stopio pwyntio bysedd a sicrhau bod dioddefwyr yn cael gwell cymorth a bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni.”

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar 39 cyfweliad a 29 grŵp ffocws gyda gweision heddlu a staff erlyn yn ogystal ag adolygu mwy na 500 o achosion.

Canfuwyd bod yna rwystredigaeth o ganlyniad i’r ffaith fod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn mynnu cyfathrebu dros e-bost.

Ystyriwyd hyn yn ‘enghraifft arall o’r rhwystr i gyfathrebu effeithiol’.

Fe ychwanegodd yr Arolygydd y Cwnstabwliaeth, Wendy Williams fod “cyllid yn sylfaenol bwysig” ond mynnodd fod angen cydweithio.

“Gallwch chi gael yr holl gyllid sydd ar gael, ond os yw dwy asiantaeth o fewn y Drefn Gyfiawnder yn mynnu gweithio yn erbyn ei gilydd gan fethu cyfathrebu’n effeithiol, yna mae angen newid meddylfryd”.