Mae Prif Swyddog Iechyd Lloegr wedi rhybuddio y gallai sefyllfa’r coronafeirws droi’n “eithaf brawychus” o fewn wythnosau.

Dywedodd yr Athro Chris Whitty y gallai nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty â Covid-19 gyrraedd lefelau “eithaf brawychus” o fewn wythnos.

Daeth ei sylwadau ychydig oriau yn unig ar ôl i Boris Johnson ddweud ei bod hi’n “hynod debygol” fod y gwaethaf drosodd.

Dangosa’r ystadegau diweddaraf fod 48,553 achos newydd dros y Deyrnas Unedig, sef y lefel uchaf ers 15 Ionawr, tra bod 63 o farwolaethau eraill wedi’u cofnodi – y cynnydd dyddiol mwyaf ers 26 Mawrth.

“Eithaf brawychus”

“Dw i ddim yn meddwl y gallwn ni danamcangyfri’r ffaith y gallem ni fynd i drwbl eto’n rhyfeddol o sydyn,” meddai’r Athro Chris Whitty.

Rhybuddiodd fod nifer y bobol sydd mewn ysbytai gyda Covid-19 yn dyblu bob tair wythnos ar hyn o bryd, ac y gallai’r “niferoedd fod yn eithaf brawychus” os yw’r patrwm yn parhau.

“Dydyn ni ddim allan o berygl eto gyda hyn, rydyn ni mewn siâp llawer gwell oherwydd y rhaglen frechu, a chyffuriau a chyfuniad o bethau eraill,” meddai wrth siarad mewn webinar gyda’r Amgueddfa Wyddoniaeth.

“Ond mae gan hyn ffordd bell i redeg eto yn y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed pellach yn fyd-eang.”

Daeth ei sylwadau wedi i Boris Johnson annog pobol i beidio â bod yn ddiofal wrth i gyfyngiadau lacio yn Lloegr ddydd Llun (19 Gorffennaf), a chydnabod y bydd mwy o dderbyniadau i ysbytai a marwolaethau Covid-19 yn yr “wythnosau a dyddiau anodd sydd o’n blaenau”.

Yr allwedd ar 19 Gorffennaf yw “cymryd pethau’n ofnadwy o araf”, meddai Chris Whitty, gan ychwanegu ei fod e’n llawn ddisgwyl i’r rhan fwyaf o bobol barhau i gymryd rhagofalon.

“Os ydych chi’n edrych ar beth mae pobol wedi’i wneud, ac os ydych chi’n edrych ar yr hyn mae pobol yn bwriadu ei wneud nawr, mae pobol wedi bod yn andros o dda am ddweud: ‘Ella fy mod i mewn risg cymharol isel, ond mae pobol o fy nghwmpas mewn risg uchel, a dw i am addasu fy ymddygiad’,” meddai.

Hunan-ynysu

Mae’r cynnydd mewn heintiadau’n cael effaith ar nifer y bobol sy’n gorfod hunan-ynysu ar ôl dod i gyswllt ag achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau hefyd.

Mae gweinidogion yn bryderus am hynny, ac yn edrych a yw hi’n bosib i ap Covid y Gwasanaeth Iechyd fod yn llai sensitif er mwyn lleihau’r niferoedd sy’n cael neges yn dweud bod rhaid iddyn nhw hunanynysu.

Dros y saith diwrnod hyd at 7 Gorffennaf, cafodd 9,932 o negeseuon eu gyrru drwy’r ap yng Nghymru, a 520,194 yn Lloegr.

Yn ôl y sôn, mae rhai pobol yn cael negeseuon yn gofyn iddyn nhw hunan-ynysu gan fod eu cymdogion wedi profi’n bositif, ac mae’r ap yn canfod pobol drwy waliau.

“Rydyn ni’n clywed straeon ac rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosib i’r signal deithio drwy waliau, er ei fod yn wannach,” meddai ffynhonnell sy’n gysylltiedig â’r tîm Profi ac Olrhain yn Lloegr wrth y Daily Telegraph.