Mae Clwb pêl-droed Tref Merthyr wedi ‘sgorio gôl’ yn erbyn newid hinsawdd yn ei frwydr i leihau ei ôl-troed carbon.
Maen nhw wedi gosod paneli solar 30 Cilowat ar do prif stand eu stadiwm pêl-droed.
“Rydyn ni’n credu mai Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yw’r clwb pêl-droed gwyrddaf yng Nghymru erbyn hyn,” meddai Alex Ferraro o gwmni Egni Co-op sydd wedi bod yn helpu gosod y paneli solar.
Eisoes mae gan y cwmni baneli solar ar nifer o leoliadau chwaraeon ledled Cymru gan gynnwys Clwb Rygbi Cwm-gors, Pafiliwn Rygbi Bryncethin, Clwb Golff Parc Garnant, Pwll Nofio Cymunedol Pontycymer a Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
‘Egnïo’r Merthyron’
Fe ddywedodd Rob Davies o Glwb Pêl-droed Tref Merthyr bod lleihau ôl-troed carbon yn bwysig iawn i’r clwb.
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n paneli solar newydd gan Egni Co-op.
“Gobeithiwn y bydd ynni’r haul yn rhoi mwy fyth o ‘egni pêl-droedio’ i’r Merthyron.
“Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a lleihau ein costau ynni yn bwysig iawn i’r clwb.”
Fe gyflawnwyd y prosiect trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr, Cymunedau Cynaliadwy Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Merthyr.
Egni Co-op yw’r cwmni cydweithredol mwyaf yn y DU sy’n rhoi paneli solar ar doeon.
Hyd yn hyn mae Egni Co-op wedi gosod paneli solar ar doeon 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru.
Mae’r cwmni wedi creu ffilm sy’n rhoi syniad o raddfa ei waith gan edrych ar y 2,000 o baneli solar ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd: