Mae Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu Is-gwmni i ddechrau ar y gwaith o sefydlu ‘Rhaglen Ddysgu Ryngwladol’ Llywodraeth Cymru, fydd yn caniatau i fyfyrwyr astudio dramor.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £65 miliwn yn ei Rhaglen Ddysgu Ryngwladol i Gymru gyda’r gwaith yn decrhau yn y flwyddyn academaidd 2022-23.
Mae’r brifysgol nawr yn chwilio am swyddogion gweithredol i ddod o hyd i grŵp ‘amrywiol a chyffrous ‘o ymgeiswyr ar gyfer swydd Cadeirydd di-dâl y Bwrdd Cynghori.
Daw’r Cynllun Dysgu Ryngwladol wedi i Lywodraeth y DU ddewis peidio â pharhau gyda chynllun Erasmus yn dilyn Brexit.
Yn ei lle mae Llywodraeth y DU wedi datblygu cynllun tebyg sef y Rhaglen Turing.
Bydd gan fyfyrwyr o Gymru yr hawl i gymryd rhan yn y cynllun hwnnw, ond bwriad y ‘Rhaglen Ddysgu Ryngwladol’ yw i ‘lenwi’r bylchau’ sydd wedi eu gadael gan y Rhaglen Turing.
Bydd is-gwmni Prifysgol Caerdydd yn cydweithio mewn partneriaethau gyda sectorau addysg eraill.
Bydd y gweithgareddau cyntaf yn dechrau ym mlwyddyn academaidd 2022-23 gyda’r bwriad o gael Cadeirydd y Bwrdd i ddechrau yn y swydd erbyn diwedd mis Medi.
Mewn datganiad fe ddywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles:
“Rwy’n rhagweld y bydd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar hyn dros yr haf, yn barod ar gyfer meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid, a datblygu polisi yn yr hydref eleni.
“Bydd y rhaglen newydd bwysig hon yn darparu ystod eang o brofiadau rhyngwladol i ddysgwyr a staff ar draws y sector addysg gyfan yng Nghymru.”
Chwilio am enw newydd i’r rhaglen
Mae’r ‘Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Dysgu’ yn enw dros dro, a bydd cystadleuaeth yn cael ei lansio i ddod o hyd i enw newydd yn ddiweddarach yr haf hwn.
Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc, addysgwyr a staff o flwyddyn academaidd 2022/23 tan 2027.
Bwriad Llwyodraeth Cymru yw cefnogi “cyn belled ag y bo modd, yr ystod gyfan o weithgareddau sydd wedi bod ar gael i ddysgwyr yng Nghymru o dan raglen Erasmus+ yr UE, 2014 – 2020.”