Mae arbenigwyr yn rhybuddio fod agenda ‘codi’r gwastad’ Boris Johnson wedi’i heffeithio gan ‘ffafriaeth etholaethol’.
Yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, mae’r cynllun i sicrhau cyfran deg o gyfoeth a llewyrch i bob rhan o Brydain yn cael ei danseilio gan fod y pwyslais ar seddi ymylol ac ardaloedd Ceidwadol – gan anwybyddu rhannau helaeth o’r wlad.
Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan wedi ymrwymo i wella sefyllfa economaidd ardaloedd tlotaf Prydain – “levelling up” yw’r arwyddair.
Ac mae hi’n gobeithio y bydd ei ‘Chronfa Codi’r Gwastad’ (the Levelling Up Fund) a’i ‘Chronfa Adfywio Cymunedol’ (Community Renewal Fund) yn cyfrannu at hynny.
Gyda’r cyllid yma mae siroedd Cymru wedi eu trefnu mewn i grwpiau o ran blaenoriaeth, ac o dan y ‘Gronfa Codi’r Gwastad’ mae Gwynedd yn y grŵp lleiaf anghenus (grŵp blaenoriaeth tri).
Sir Fynwy (a gynrychiolir gan Dori yn y Senedd a San Steffan) yw’r unig sir arall yng Nghymru sydd yn yr un grŵp
Daw sylwadau’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi i Boris Johnson ddweud ddoe fod gan y Deyrnas Unedig economi fwy anghytbwys nag unrhyw wlad “fawr” arall.
Wrth wneud araith am agenda Cronfa Codi’r Gwastad yn Coventry, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfaddef fod “daearyddiaeth yn dynged i ormod o bobol o lawer”.
Ychwanegodd fod cynnyrch domestig gros Cymru’n is na Dwyrain yr Almaen, cyn iddi ailymuno â gweddill y wlad yn 1990.
“Mae’r Almaen wedi llwyddo i godi’r gwastad, ond dydyn ni heb,” meddai Boris Johnson.
“Gwywo ar y gangen”
“Bydd cronfa Codi’r Gwastad y llywodraeth yn edrych fwy fel Cronfa Slush os yw seddi saff ac ardaloedd sydd ddim yn Geidwadol yn parhau i gael eu hanwybyddu,” meddai Dr Jess Garland, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
“Yn anffodus mae hyn wedi’i adeiladu’n rhan o resymeg gwyrdoedig San Steffan am system bleidleisio lle mae un blaid-yn-cymryd-popeth – gydag ardaloedd anferth o’r wlad yn cael eu gweld yn ‘anenilladwy’ ac yn cael eu gadael i wywo ar y gangen.
“Pam ddylai pleidleiswyr yn ardaloedd yr wrthblaid gael eu hamddifadu rhag buddsoddi? Nes ein bod ni’n gweld newid yn rheolau’r gêm – gyda system etholiadol gyfrannol, deg – byddwn ni’n parhau i weld y math yma o wleidyddiaeth lle mae gwleidyddion yn gwario arian ar eu hetholwyr er mwyn ennill cefnogaeth.”