Mae Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddefnyddio ei bwerau i sicrhau bod plant o Bencoed sy’n dymuno cael addysg Gymraeg yn gallu gwneud hynny.

Daw sylwadau Luke Fletcher wedi iddi ddod i’r amlwg fod teuluoedd yn methu â gyrru eu plant i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ar gyfer mis Medi, ac mae’r grŵp Rheini Dros Addysg Gymraeg lleol wedi datgan eu siom bod y cyngor wedi methu â chydnabod difrifoldeb y sefyllfa.

Mae’r mudiad eisoes wedi dweud fod diffyg cynllunio lleoedd addysg Cymraeg yn y sir yn llesteirio twf yr iaith.

“Mynediad cyfartal i addysg Gymraeg”

Gan fod cynlluniau ar waith i ehangu’r lleoedd a’r ddarpariaeth addysg yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i newid nifer y disgyblion sy’n cael eu derbyn i’r ysgol.

Mae Luke Fletcher, sy’n Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi tynnu sylw at hynny yn y Cod Derbyn i Ysgolion.

“Rwy’n galw ar y cyngor sir i ddefnyddio ei bwerau i sicrhau bod plant sy’n dymuno cael mynediad i addysg Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn gallu gwneud hynny,” meddai’r AoS sy’n byw ym Mhencoed.

“Ni ddylai rhieni fod yn anfon eu plant ymhellach i ffwrdd neu orfod dewis addysg cyfrwng Saesneg.

“Os yw’r sir am gwrdd ei thargedau fel rhan o strategaeth 2050, mae’n rhaid i’r cyngor weithredu nawr i ganiatáu i bob cenhedlaeth gael mynediad cyfartal i addysg Gymraeg.

“Byddaf mewn cysylltiad â’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg i fynd ar drywydd y mater hwn.”

“Sefyllfa anodd”

Mae Catrin Davies yn “siomedig” â’r sefyllfa, ac yn dweud mai ysgol cyfrwng Saesneg yw’r unig opsiwn i’w mab, Billy, erbyn hyn.

“Rwy’n hynod siomedig gyda’r canlyniad hwn, mae wedi rhoi ein teulu mewn sefyllfa anodd. Nid ydym yn cael mynediad i’n hysgol Gymraeg leol,” meddai Catrin Davies, sy’n byw dros saith milltir o’r ysgol Gymraeg nesaf i’w chartref.

“Mae Billy’n bedair oed ac yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor sir i lenwi ysgolion Cymraeg sydd wedi’u tandanysgrifio mewn ardaloedd eraill i gefnogi eu cyllid, nid ei gyfrifoldeb ef yw hyn. Ysgol cyfrwng Saesneg yw ein hunig ddewis erbyn hyn.

“Rwy’n galw ar y cyngor i ailystyried ein hachos o dan bwynt 3.5 [o’r Cod Derbyn], mae’r ysgol wedi dweud wrthym na fydd cynyddu maint y dosbarth o un yn niweidiol a gyda’r cynlluniau i gynyddu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn y tymor agos, mae’r meini prawf wedi’u bodloni.”

“Styfnigrwydd”

Ychwanegodd Rhieni dros Addysg Gymraeg fod “angen pwyso ar Gyngor Penybont i gyfiawnhau codi gobeithion rhieni drwy ddatgan darpariaeth newydd ar un llaw a’r styfnigrwydd i fethu â defnyddio rhan o God Mynediad i Ysgolion sydd yno i’w helpu mewn sefyllfaoedd penodol fel hyn”.

“Mae angen rhoi pwysau ar y Gweinidog i fynnu bod Pen-y-bont yn cynyddu addysg Gymraeg o fewn cymunedau a bod y dewis am addysg Gymraeg yn gydradd.”

Diffyg cynllunio lleoedd addysg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llesteirio twf y Gymraeg, medd RhAG

Maen nhw’n galw ar y Cyngor Sir i weithredu ar frys i ddarparu lleoedd lleol brys i bawb sydd wedi gwneud cais i ysgolion Cymraeg ar gyfer mis Medi