Cafodd Plac Porffor i goffáu un o’r Swffragétiaid cyntaf ac Ymgyrchydd Heddwch ei ddadorchuddio ym Mangor heddiw (16 Gorffennaf).
Gosodwyd y plac ar hen gartref Charlotte Price White, a oedd yn ymgyrchydd di-drais dros y Bleidlais i Ferched.
Charlotte Price White oedd un o’r merched cyntaf i astudio Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor, a bu’n arloesol mewn nifer o feysydd.
Roedd hi’n Ysgrifennydd cangen Gogledd Cymru o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau dros Bleidleisiau i Ferched (NUWSS), ac roedd hi’n un o ddwy fenyw o’r gogledd a gerddodd i Lundain fel rhan o Bererindod Fawr aelodau’r Undeb.
Yn ogystal, roedd hi’n yn ffigwr canolog yng nghangen Gogledd Cymru o Gynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid (WILPF).
Charlotte Price White oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Caernarfon a bu’n gwasanaethu o 1925 hyd at ei marwolaeth ym 1932. Roedd hi hefyd ymhlith aelodau cyntaf Sefydliad y Merched.
“Cyfraniad mawr at hanes merched”
Fel rhan o’r dadorchuddio yn 50 Ffordd Garth Uchaf heddiw, bu’r hanesydd Annie Williams yn rhoi darlith ar y cyd â Neil Evans am fywyd un o ladmeryddion cynharaf hawliau merched yn y gogledd.
“Gwnaeth Mrs Charlotte Price White gyfraniad mawr at hanes merched Cymru trwy ei gwaith ymgyrchu dros bleidleisiau i ferched, y mudiad heddwch ac mewn bywyd cyhoeddus fel y ferch gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Caernarfon ym 1926,” meddai Annie Williams.
Ychwanegodd Neil Evans fod “llawer i’w ddysgu o hyd am fywyd Charlotte”.
“Ond gwyddom iddi ymroi i hawliau merched, i heddwch byd-eang ac i hyrwyddo addysg a lles plant. Roedd hi’n ymroddedig i’w theulu ac i’w chymuned,” meddai Neil Evans.
Cafodd ŵyr Charlotte, Christopher Price White, yr anrhydedd o ddadorchuddio’r plac.
“Dathlu merched hynod”
Mae’r Placiau Porffor yn rhoi sylw i gyflawniadau merched trwy roi cydnabyddiaeth i ferched rhyfeddol yng Nghymru, gan geisio unioni’r nifer isel o ferched a gafodd eu coffau ar blaciau Glas.
Ledled Cymru, mae tua 250 o Blaciau Glas, ond ychydig iawn ohonyn nhw sy’n coffau cyflawniadau merched.
“Sefydliad gwirfoddol bach yw’r Placiau Porffor. Mae’n ymroddedig i gofio a dathlu merched hynod a fu’n byw yng Nghymru,” meddai Sue Essex, Cadeirydd Pwyllgor y Placiau Porffor.
“Hyd yma mae gennym bum plac mewn gwahanol rannau o Gymru a byddwn yn ychwanegu tri arall yr haf yma gan gynnwys plac Charlotte Price White ym Mangor. Ein nod yw y bydd placiau porffor i ferched o bob cefndir ledled y wlad.
“Mae cymaint o ferched â straeon ysbrydoledig sy’n haeddu cael eu cofio yng Nghymru.
“Mae Placiau Porffor yn hapus i weithio gydag unrhyw un ac unrhyw grŵp sydd ‘am ddathlu merch hynod’.”
“Torri tir newydd”
“Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn gweld cydnabod bywyd Charlotte Price gyda Phlac Porffor,” meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.
“Roedd Charlotte yn gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol. Roedd yn ffigwr ysbrydoledig ac mae’n dal i fod felly.
“Gwnaeth gyfraniad aruthrol nid yn unig i’r mudiad dros bleidleisiau i ferched, ond i amrywiol achosion cymdeithasol a gwleidyddol blaengar eraill.
“Torrodd dir newydd yng ngwir ystyr y gair. Trwy ei gweledigaeth, ei dewrder a’i harddeliad cadarn, braenarodd y tir i genedlaethau olynol o ferched chwarae rhan amlwg mewn bywyd gwleidyddol.”
“Dathlu cyfraniad”
Dywedodd Sian Rhiannon Williams, Hanesydd ac aelod o bwyllgor y Placiau Porffor a phwyllgor Archif Merched Cymru, fod Placiau Porffor Cymru’n falch o ddathlu cyfraniad Charlotte Price White.
“Mae Placiau Porffor Cymru’n falch iawn o ddathlu cyfraniad rhyfeddol Charlotte fel arloeswraig dros ferched mewn gwleidyddiaeth ac i godi’r plac er anrhydedd iddi er mwyn cydnabod ei gwaith dros hawliau merched, y mudiad heddwch a’r gymuned leol yn lleol a ledled Cymru.”