Mae Peredur Owen-Griffiths, AoS Plaid Cymru, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ymuno gyda’r Ceidwadwyr i bleidleisio yn erbyn cynnig i roi prydau ysgol am ddim i bob disgybl.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths ei fod yn siomedig wrth i’r llywodraeth wrthod cynnig Plaid Cymru.
“Yng Nghymru, mae un o bob tri phlentyn mewn tlodi ac mae hyn yn annerbyniol.
“Nid yw’r rhai sy’n derbyn cymorth o dan y system bresennol yn aml yn cael digon o arian i’w hatal rhag bod yn llwglyd drwy gydol y dydd.
“Roedd yn siomedig na chawsom y gefnogaeth o bob rhan o’r Senedd i’r plant mewn tlodi sydd mewn cymaint o angen.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn well na hyn.”
‘Annhegwch yn y system’
Ym mis Hydref y llynedd, amcangyfrifodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fod dros 70,000 o’r 129,000 o blant oedran ysgol sy’n byw islaw’r llinell dlodi yng Nghymru sydd ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Yn ôl Plaid Cymru, y rheswm am hyn yw ‘bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel ond sydd dros y trothwy incwm sy’n eu cymhwyso am brydau ysgol am ddim ond eto sydd yn dal i fyw mewn tlodi.’
Yng Nghymru mae hawl i blentyn hawlio prydau ysgol am ddim os yw rhiant yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Treth Plant ac nid yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190
- Credyd Cynhwysol ac nid yw incwm net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1
‘Parhau i bwyso’
Ychwangeodd Peredur Owen-Griffiths:
“Byddai ein polisi ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob plentyn sy’n cael eu dysgu gan y wladwriaeth wedi bod yn hwb mawr i leihau effeithiau dinistriol tlodi.
“Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru ar y mater hwn nes eu bod yn gwneud yr hyn sy’n iawn ac yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd yn tra yn yr ysgol.”
Dyhead y Blaid oedd cyflwyno cynllun sy’n debyg i’r hyn sy’n digwydd yn Sweden a’r Ffindir.
Yn y gwledydd hyn mae pob plentyn ysgol yn derbyn prydau ysgol am ddim i blant o bob oed.
Ymateb y Llywodraeth
Ar hyn o bryd mae 108,203 o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hyn yn gynnydd o bron i 18,000 o ddisgyblion mewn blwyddyn yn unig.
Fe ddywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg fod “prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn elfen bwysig o’n hagenda ar gyfer trechu tlodi.
“Does dim modd anwybyddu realiti hynny.
“Y llynedd fe wnaethon ni sicrhau fod £60 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer prydau ysgol am ddim. Rydym yn ystyried hynny’n hanfodol ar gyfer ein hysgolion.
“Ni oedd y cyntaf yn DU i warantu cyllid parhaus am brydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau haf o ganlyniad i’r pandemig a’r cyntaf i gyhoeddi y byddai’r ddarpariaeth hon yn parhau hed at y Pasg.
“Gan adeiladu ar hynny, gallaf gadarnhau £23.3 miliwn ychwanegol i sicrhau y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod pob gwyliau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021-22.
“Rydym wedi sicrhau £477,000 ar gyfer darparu prydau am ddim i fyfyrwyr mewn addysg bellach dros yr haf.”