Nid yw Guto Harri yn cyflwyno ar sianel newyddion newydd GB News wedi iddo fynd lawr ar un ben-glin, yn groes i reolau golygyddol y sianel.
Roedd y Cymro Cymraeg, sydd hefyd yn cyflwyno sioe ar S4C, wedi mynd lawr ar un ben-glin yn fyw ar GB News i ddangos cefnogaeth i aelodau o dîm pêl-droed Lloegr gafodd eu cam-drin yn hiliol yn ddiweddar.
Roedd Guto Harri yn ohebydd i’r BBC cyn mynd i weithio yn llefarydd i Boris Johnson yn ystod ei dymor cyntaf yn Faer Llundain.
Mae hefyd wedi treulio amser yn gweithio i News UK, sianel newyddion Rupert Murdoch.
Roedd yna ymateb ffyrnig i safiad Guto Harri, gyda gwylwyr yn boicotio GB News, a rhai o’u rhaglenni yn denu dim gwylwyr.
Yn ôl y Guardian mae’r sianel mewn argyfwng, gyda staff eraill yn ystyried gadael wrth i niferoedd gwylio ddisgyn, a chynlluniau ar gyfer ail-lansio’r sianel eisoes yn cael eu trafod.
“Annerbyniol”
Mewn datganiad dywedodd GB News ei bod yn “annerbyniol” i unrhyw gyflwynydd fynd lawr ar un ben-glin – symbol sy’n gysylltiedig â mudiad Black Lives Matter – gan ychwanegu fod Guto Harri wedi torri cod golygyddol y sianel.
Fodd bynnag, nid yw’n glir pa ran o’r cod golygyddol y gallai Guto Harri fod wedi ei dorri.
Mae siarter olygyddol gyhoeddus y sianel yn ymrwymo i werthoedd craidd gan gynnwys “annibyniaeth ein newyddiadurwyr”, “parch at farn a’r rhai sy’n eu mynegi”, a “hawl pob unigolyn i ffurfio a rhannu eu barn”.
Doedd llefarydd ar ran GB News ddim yn gallu cadarnhau a fyddai Guto Harri yn gadael y sianel, neu a yw staff allweddol eraill yn dal gyda’r sianel.
Daw’r digwyddiad wrth i’r sianel wynebu problemau parhaus, ar ôl lansio bedair wythnos a hanner yn ôl.
Mae’n debyg bod aelodau staff blaenllaw wedi gadael yn y dyddiau diwethaf yn dilyn dadleuon am lansiad trychinebus y sianel, a gafodd ei effeithio gan anawsterau technegol.
Ac mae yna densiwn ymhlith staff a amddiffynnodd Guto Harri yn gyhoeddus yn gynharach yn yr wythnos, dim ond i weld eu safiad yn cael ei wrthddweud gan y sianel.
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu gyda Guto Harri.