Mae dyn a welodd wylan wedi hedfan fewn i sbeics metel ar ben to adeilad yn Abertawe wedi galw am adolygu eu defnydd – ac mae degau o filoedd yn cytuno.

Rhoddir sbeics metel a rhwydi ar doeau adeiladu i atal gwylanod rhag mynd yno a nythu, ac am eu bod yn adar swnllyd.

Ond mae Patrick Driscall yn galw am edrych eto ar y ffyrdd o atal yr adar, ac fe gafodd ei synnu gyda’r gefnogaeth mae wedi ei derbyn wedi i dros 37,000 o bobl arwyddo ei ddeiseb yn galw am adolygiad.

Mae Mr Driscall, sy’n byw yn y Sgeti, wedi dweud bod rhai gwylanod, sydd â niferoedd o dan fygythiad, yn cael sylw gwael a bod diffyg ymchwil am effeithiau sbeics metel a rhwydi arnyn nhw.

Roedd hefyd yn bryderus bod rhywogaethau adar eraill yn cael eu dal, gan ddweud ei fod “wedi gweld colomennod a jac-y-dos yn sownd mewn rhwydi ar adeiladau diwydiannol.”

‘Argyfwng bioamrywiaeth’

Mae Mr Driscall yn dweud y gallai dulliau llai niweidiol gael eu harchwilio a dylai pobl ystyried bod gweithredoedd dynol wedi effeithio ar gynefinoedd yr adar hyn, gan eu denu i ardaloedd dinesig.

“Rydw i’n deall bod pobl yn bryderus am sŵn y gwylanod, ond pob blwyddyn, mae yna straeon amdanyn nhw’n bachu hufen ia, sy’n beth pitw o gymharu â beth mae’r adar yn eu dioddef,” meddai’r gŵr 57 oed.

“Mae yna argyfwng bioamrywiaeth, ac rydw i’n credu ein bod ni wedi darganfod yng nghanol Covid bod natur yn gysur i ni gyd.

“Mae’n rhaid iddo gael ei warchod a’i barchu.”

Dywedodd Mr Driscall nad oedd o wedi dechrau deiseb o’r blaen a bod yr ymateb yn syndod ar yr ochr orau.

Mae o nawr wedi gofyn am gyfarfod gydag Aelod o’r Senedd Abertawe, Julie James, i drafod y ddeiseb.

‘Angen bod yn fwy goddefgar’

Mae Dr Viola Ross-Smith, o’r British Trust for Ornithology wedi dweud bod Prydain yn gartref i tua 12% o wylanod penwaig y byd. Mae’r adar ar restr goch cadwraeth, sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i’r rhywogaeth.

“Yn bersonol, rydw i’n falch o weld cymaint o bobl yn arwyddo’r ddeiseb,” meddai Dr Ross-Smith.

“Rydw i’n credu bod angen inni ddysgu i fod yn fwy goddefgar.”

Wrth drafod opsiynau eraill yn lle rhwydi a sbeics metel, dywedodd Dr Ross-Smith ei bod hi’n “anodd” ac mai’r peth gorau i gael gwared ar wylanod yw “peidio â’u bwydo nhw.”

Ymateb y llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pob sbeic metel a rhwyd sy’n cael eu gosod yn amodol ar reolau cynllunio.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n osgoi niweidio bywyd gwyllt lle mae hynny’n bosibl,” meddai llefarydd.

“Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai bydd angen atal adar rhag nythu a chlwydo mewn ardaloedd sensitif, ond dylid canolbwyntio ar leihau argaeledd gwastraff bwyd, sy’n darparu llefydd i rywogaethau ffynnu.”

Mae Mr Driscall wedi dweud bod swyddog rheoli pla o’r Alban wedi cysylltu ag o, oedd wedi darganfod dros 100 colomen ac 20 gwylan wedi eu lladd gan rwydi ar ben toeau.

“Yn syml, dydy cael gwylan neu aderyn arall ar eich to, yn nythu neu’n sgrechian ddim yn rheswm i achosi eu marwolaeth boenus ac rwy’n credu ei bod hi’n hen bryd cael adolygiad,” meddai.