Mae tri chwarter holl boblogaeth Cymru wedi cael eu brechu’n llawn rhag y coronafeirws erbyn hyn.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Gwener 16 Gorffenaf), mae 1,892,082 o bobl wedi cael eu brechu’n llawn dros y saith mis diwethaf, a  2,279,139 o bobl neu  90.3% o oedolion wedi cael eu dos cyntaf.

Mae’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o gynnig brechiad i bob oedolyn chwe wythnos yn gynnar.

“Mae pob brechiad yn rhoi gobaith inni ac mae hyn yn dipyn o gamp mewn cyfnod mor fyr,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

“Rwy’n arbennig o falch bod gan Gymru un o’r cyfraddau brechu gorau yn unrhyw le yn y byd. Mae pobl Cymru wedi croesawu ein hymdrechion i oresgyn y feirws ofnadwy hwn trwy gydsynio i gael y brechlyn sy’n achub bywydau a hoffwn ddiolch i bob un o’r  bobl sydd wedi cymryd y cyfle i gael y brechlyn.

“Dyw’r pandemig ddim drosodd eto. Cael eich brechu yw’r ffordd allan o’r pandemig a’r ffordd orau o’ch diogelu’ch hun a’r rhai o’ch cwmpas rhag y feirws. Hoffwn annog unrhyw un sydd heb gael y brechiad i gysylltu â’i fwrdd iechyd a threfnu cael ei frechu.”

Ychwanegodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru dros Frechlynnau:

“Mae pob dos yn cyfrif ac oherwydd amrywiolyn Delta, sy’n amrywiolyn mwy heintus, mae angen inni i gyd gael dau ddos i gael yr amddiffyniad gorau ac mae hyn yn digwydd  2-3 wythnos yn dilyn yr ail ddos.

Mae pob brechlyn sy’n cael ei roi yn gam yn nes at ddyfodol mwy disglair i bob un ohonom.”