Mae nifer y marwolaethau yn y llifogydd yn yr Almaen a Gwlad Belg wedi codi i dros 150 wrth i’r gwaith chwilio ac achub yno barhau.

Dywed yr heddlu fod o leiaf 90 o bobl wedi cael ei lladd yn swydd Ahrweiler yn nhalaith Rheinland Pfalz yng ngorllewin yr Almaen, gydag ofnau y bydd y niferoedd yn codi.

Cadarnhawyd hefyd fod 43 o bobl wedi marw yn Nordrhein Westfalen, talaith fwyaf poblog yr Almaen, a 27 arall dros y ffin yng ngwlad Belg.

Erbyn heddiw (dydd Sadwrn 17 Gorffennaf) roedd y dyfroedd yn cilio yn llawer o’r ardaloedd sydd wedi cael eu taro.

Er hyn, mae’r awdurdodau’n ofni y bydd cyrff yn cael eu darganfod mewn ceir a lorïau sydd wedi cael eu hysgubo ymaith.

Mae arlywydd yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier, yn bwriadu teithio i Erfstadt, i’r de-orllewin o Cologne, lle cafodd cartrefi eu dymchwel mewn tirlithriad ddoe.

Mae llawer o ardaloedd yn dal heb wasanaeth trydan a ffôn.

Cafodd rhannau deheuol o’r Iseldiroedd hefyd eu taro gan lifogydd, ac mae glaw trwm yn y Swistir wedi peri i amryw o afonydd a llynnoedd orlifo eu glannau.