Mae hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod yn nhai ei gilydd o heddiw (dydd Sadwrn 17 Gorffennaf) ymlaen wrth i gyfyngiadau coronafeirws Cymru gael eu llacio ymhellach.

Bydd hefyd modd cynnal digwyddiadau dan-do i hyd at 1,000 o bobl yn eistedd a 200 yn sefyll.  Does dim cyfyngiadau o gwbl ar y nifer oedd o bobl a all gyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu ddigwyddiadau awyr agored, a gall grwpiau o hyd at 30 o blant ymweld â chanolfannau gweithgareddau preswyl.

Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud wrth i Gymru symud i Lefel Gwyliadwriaeth 1, yn barod ar gyfer codi’r mwyafrif o gyfyngiadau coronafeirws ar 7 Awst, pan ddaw Lefel Gwyliadwriaeth 0 i rym.

Er hyn, fe fydd yn dal yn ofynnol gwisgo masg mewn y mwyafrif o leoedd dan do, ac eithrio mewn tafarnau, tai bwyta ac ysgolion.

Fe fydd tystysgrifau brechu ar gael i’r bobl fydd eu heisiau, er enghraifft ar gyfer teithio tramor neu ymweld â lleoliadau, ond ni fydd yn orfodol i bawb eu cael.

Mae cyfradd achosion Cymru o’r coronafeirws ar hyn o bryd yn 145 i bob 100,000 o boblogaeth – sydd yr isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfradd o bobl sydd wedi cael eu brechu hefyd ymhlith yr uchaf yn y byd.