Mae teithwyr sy’n dychwelyd i Brydain o Ffrainc am ddal i orfod hunan-ynysu hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu brechu’n llawn.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Lywodraeth Prydain ar fyr rybudd yn hwyr neithiwr ac mae wedi arwain at ddryswch ac ansicrwydd.
Mae’n dilyn cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf na fyddai’n rhaid i bobl sy’n dychwelyd o wledydd sydd ar oren y Llywodraeth hunan-ynysu o ddydd Llun ymlaen, cyn belled â’u bod wedi eu brechu’n llawn neu o dan 18 oed.
Dywed gweinidogion i’r penderfyniad gael ei wneud oherwydd pryderon am bresenoldeb parhaus amrywiad Beta o’r coronafeirws yn Ffrainc. Mae ofnau y gall yr amrywiad hwn, a ddaeth i’r amlwg yn Ne Affrica yn y lle cyntaf, fod yn fwy abl i wrthsefyll brechiadau.
Dywed Abta, y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant teithio, fod eithrio Ffrainc ar y funud olaf o’r cynlluniau llacio rheolau yn ergyd bellach i obeithion am adferiad ystyrlon i’r sector.
“Er ein bod ni’n deall bod yn rhaid i iechyd y cyhoedd ddod gyntaf, mae’n sicr y bydd y cyhoeddiad hwn yn lleihau hyder defnyddwyr mewn teithio tramor fel rydym ar fin gweld gwledydd ar y rhestr oren yn agor i ymwelwyr o Brydain,” meddai llefarydd ar eu rhan.
Cafodd y cyhoeddiad ei feirniadu’n hallt gan Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Nick Thomas-Symonds.
“Mae Gweinidogion yn gwneud rheolau wrth fynd ymlaen ac yn achosi anhrefn,” meddai.
“Fuo ganddyn nhw erioed strategaeth iawn ar waith – unwaith eto mae’r diwydiant teithio a phobl Prydain yn talu’r pris.”
Daeth y cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i ynysoedd Ibiza, Mallorca a Menorca gael eu symud o’r rhestr werdd i’r rhestr oren. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i bawb sydd heb gael eu brechu’n llawn hunan-ynysu ar ôl dod yn ôl.