Roedd y golygfeydd hyll yn ystod gêm derfynol Euro 2020 yn “staen ar enw da Lloegr”, yn ôl un o gyn-benaethiaid Heddlu Llundain.

Roedd cannoedd o gefnogwyr heb docynnau wedi gwthio’u ffordd i’r stadiwm ddydd Sul er mwyn ceisio gwylio’r gêm hanesyddol rhwng Lloegr a’r Eidal.

Dywed cyn-ddirprwy gomisiynydd cynorthwyol y Met, Andy Trotter, y byddai’n rhy simplistig tafllu’r holl fai ar yr heddlu.

“Ymddygiad ffiaidd gan gefnogwyr oedd yn gyfrifol ac mae’n dwyn gwarth ar ein gwlad,” meddai wrth Times Radio.

“Roedd yn amlwg fod llawer o fethiannau, a dw i ddim yn ceisio amddiffyn neb, oherwydd roedd yn ddigwyddiad gwarthus ac yn staen gwirioneddol ar enw da ein gwlad.”

Dywedodd fod angen ailedrych ar agweddau o drefniadau’r gêm, fel ei chynnal am 8pm ar nos Sul, wedi galluogi cefnogwyr i yfed drwy’r dydd a dod yn feddw gaib.

“Mae’r mwyafrif o gemau pêl-droed yn digwydd gyda rhywfaint o feddwdod … ond mae alcohol yn broblem fawr iawn,” meddai.

“Heno, ledled y wlad, bydd union yr un bobl allan yn meddwi, yn cymryd cyffuriau ac yn achosi llawer iawn o broblemau.”

Erbyn dydd Llun, roedd 897 o ddigwyddiadau’n ymwneud â phêl-droed wedi eu cofnodi ledled Prydain a 264 wedi cael eu harestio yn y cyfnod 24-awr o gwmpas y gêm. Mae pump o bobl wedi cael eu harestio hefyd ynghylch camdriniaeth hiliol ar gyfryngau cymdeithasol.

Bydd protest yn cael ei chynnal yn Llundain y pnawn yma (dydd Sadwrn 17 Gorffennaf) gan Stand Up to Racism.

Bydd gwrthdysgwyr yn plygu eu gliniau y tu allan i Downing Street i ddangos eu cefnogaeth i Marcus Rashford, Jadon Sancho a Bukayo Saka, a ddioddefodd gamdriniaeth ar-lein.