Gallai fod yn rhaid i Boris Johnson ailgyflwyno cyfyngiadau cyfnod clo yn Lloegr os bydd achosion Covid yn dal i godi yn yr hydref.

Dyna yw rhybudd y cyn-Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt, sy’n dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu sefyllfa “ddifrifol iawn”.

“Mae cleifion Covid mewn ysbytai yn dyblu pob pythefnos,” meddai Mr Hunt, sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin. “Mae’n golygu y byddwn yn gweld 10,000 o gleifion Covid mewn ysbytai erbyn diwedd mis Awst, sydd tua 20 gwaith yn uwch na’r hyn oedd yr adeg yma’r llynedd.

“Pan ddaw mis Medi, mae bron yn sicr y byddwn yn gweld heintiadau’n cyrraedd uchafswm dyddiol newydd uwch na’r 68,000 a achosion dyddiol a welsom ym mis Ionawr.

“Os ydyn nhw’n dal i godi wrth i’r ysgolion ddod yn ôl, dw i’n meddwl y bydd yn rhaid inni ailystyried rhai penderfyniadau anodd iawn. Bydd sut y byddwn ni’n ymddwyn dros yr ychydig wythnosau nesaf yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.”

Daw ei rybudd wrth i wyddonydd ddarogan y bydd achosion yn cynyddu am gyfnod hir i mewn i’r hydref.

Yn ôl yr Athro John Edmunds, o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, ac aelod o’r grwp Sage sy’n cynghori’r Llywodraeth, gall niferoedd achosion newydd godi i 100,000 y dydd o fewn wythnosau.