Mae undebau’n pwyso ar awdurdodau Tŷ’r Cyffredin i gynghori staff i gerdded oddi wrth unrhyw Aelod Seneddol a fydd yn gwrthod gwisgo masg yn San Steffan.

Roedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi dweud wrth undebau’n gynharach yr wythnos yma nad oedd modd iddo orfodi ASau i wisgo masg pan fydd rheolau’r Senedd yn cael eu llacio o ddydd Llun ymlaen. Mae hyn er gwaethaf y ffaith y bydd yn dal yn ofynnol i staff wneud hynny.

Mewn llythyr at Gomisiwn Tŷ’r Cyffredin, dywed yr undebau fod dyletswydd gan awdurdodau’r Tŷ’r i sicrhau amgychedd gweithio diogel i weithwyr.

Maen nhw’n dweud y dylai’r Comisiwn ei gwneud yn glir i staff y byddai’n rhesymol iddyn nhw gadw draw o bresenoldeb AS a fyddai’n gwrthod gwisgo masg.

Meddai dirprwy ysgrifennydd cyffredinol undeb Prospect, Garry Graham:

“Dyletswydd gyntaf Comisiwn Tŷ’r Cyffredin yw diogelu staff, ac os na allan nhw, am resymau cyfansoddiadol, wneud hyn trwy ddweud wrth ASau beth i’w wneud, rhaid iddyn nhw alluogi aelodau o staff i amddiffyn eu hunain trwy gadw draw o sefyllfaoedd lle nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel.”

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Tŷ’r Cyffredin mai eu blaenoriaeth yw sicrhau senedd ddiogel a gweithredol yn unol â rheoliadau’r Llywodraeth.

“Gobeithiwn y bydd niferoedd ar yr ystad seneddol yn dal yn gyfyngedig yr wythnos nesaf, ac y bydd pawb yno’n parhau i gymryd gofal wrth inni gychwyn ar Gam 4,” meddai.

“Byddwn, wrth gwrs, yn monitro’r sefyllfa o ddydd i ddydd.”