Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig gofnodi diwrnod poethaf y flwyddyn heddiw (dydd Sadwrn) – gyda rhagolygon y bydd yn gynhesach fyth yfory.

Ac mae de Cymru ymhlith y mannau poethaf, lle mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 31C heddiw a hyd at 33C yfory.

Mae disgwyl tymheredd o 31C yn Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr a Bryste, ac o bosibl mewn rhannau o Ogledd Iwerddon hefyd heddiw. Fe fydd hyn yn torri’r record flaenorol o 29.7C a gafodd ei gofnodi yn ne-orllewin Llundain ar 14 Mehefin.

Daw hyn ar ôl i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon brofi eu tymheredd poethaf o’r flwyddyn ddoe, record sy’n debygol o gael ei churo yn y tair gwlad heddiw ac unwaith yn rhagor yfory.

Mae disgwyl i’r cynhesrwydd barhau am ddyddiau eto i ddod, yn ôl Tom Morgan, meteorolegydd o’r Swyddfa Dywydd.

“Mae cyfnod eithaf hir o dywydd poeth dros y dyddiau nesaf gan barhau rhan helaeth o’r wythnos,” meddai. “Fe fydd tymheredd yn y dydd yn yr ugeiniau uchel neu dridegau isel, gan olygu y bydd pobl yn teimlo effeithiau’r gwres wrth i’r wythnos fynd ymlaen.”