Fe fydd mwy o wardeiniaid a phlismyn yn cadw gwyliadwriaeth ar rai o safleoedd mwyaf poblogaidd Cyfoeth Naturiol Cymru dros y misoedd nesaf.

Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys Gwarchodfa Natur Niwbwrch ar Ynys Môn, Coed y Brenin ym Meirionnydd a Llyn Geirionnydd yn nyffryn Conwy, lle mae pryderon wedi bod ynghylch ymddygiad lleiafrif ers llacio’r cyfnod clo ddiwedd mis Mawrth.

Er yn cydnabod nad yw’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn achosi dim trafferth, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod “rhai safleoedd yn dioddef o ymddygiad ymwelwyr nad ydynt yn dangos fawr ddim ystyriaeth na pharch at yr ardaloedd maen nhw wedi dod i’w mwynhau”.

Mae coedwigoedd yn cael eu defnyddio fel lleoedd parcio a gwersylloedd anghyfreithlon,  sbwriel yn cael ei daflu ar hyd y lle, a thanau gwyllt, gan arwain at bryderon amgylcheddol ac am iechyd y cyhoedd.

I geisio datrys y broblem mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â’r heddlu i gynyddu patrolau yn rhai o’r lleoedd mwyaf poblogaidd hyn.

Meddai Richard Owen, Arweinydd Tîm Cynllunio Hamdden Ystadau a Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Er ein bod yn falch iawn o groesawu pobl i’n safleoedd, mae’n rhaid inni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a’r cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu ein cymunedau lleol.

“Mae mwyafrif llethol y rhai sy’n ymweld â’n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth inni fynd i mewn i ran prysuraf y flwyddyn.”