Mae Heddlu’r De sy’n ymchwilio i ddigwyddiad ym Mharc Bute yng Nghaerdydd fore dydd Iau (Gorffennaf 15) wedi cyhuddo dyn 19 oed o ddau achos o dreisio.

Mae Tyler Higgins wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd e’n mynd gerbron ynadon y brifddinas yfory (dydd Llun, Gorffennaf 19).

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cymryd pob digwyddiad o’r fath o ddifri, a bod ganddyn nhw staff ac adnoddau priodol i fynd i’r afael ag ymchwiliadau.