Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad na fydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn hunanynysu ar ôl cael neges gan wasanaeth olrhain cysylltiadau’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn hytrach, fe fydd e a’r Canghellor Rishi Sunak yn cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi pobol yn ddyddiol, ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid brofi’n bositif am Covid-19.

Mae hyn yn golygu y bydd Boris Johnson yn cael parhau i weithio, ond dim ond ar gyfer “busnes hanfodol y llywodraeth”.

Daw hyn hefyd wrth i Lywodraeth Prydain baratoi i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr yfory (dydd Llun, Gorffennaf 19).

Pryderon

Mae busnesau a gweithwyr wedi bod yn mynegi pryder am y gwasanaeth olrhain cysylltiadau ers tro, gan ei fod yn golygu bod rhaid iddyn nhw golli diwrnodau o waith ac arian os ydyn nhw’n derbyn neges destun yn gofyn iddyn nhw hunanynysu.

Mae busnesau hefyd wedi bod yn gofyn bod y drefn yn cael ei haddasu er mwyn hwyluso’r sefyllfa iddyn nhw.

Yn gyffredinol, fe fydd rhaid i bobol barhau i hunanynysu tan o leiaf Awst 16 trwy’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau.

Bryd hynny, mae disgwyl i bobol sydd wedi cael dau ddos o frechyn gael cymryd prawf yn hytrach na hunanynysu.

Ymateb y gwrthbleidiau

Yn ôl Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, mae’r sefyllfa’n “cymryd y p***”.

“[Dydyn nhw] ddim yn dilyn y rheolau wnaethon nhw eu creu ac y maen nhw’n disgwyl i fy etholwyr eu dilyn,” meddai ar Twitter.

“Mae’r Llywodraeth hon yn trin y cyhoedd â dirmyg ac yn meddwl eu bod nhw uwchlaw’r gyfraith ac nad yw’r rheolau’n berthnasol iddyn nhw.”

Yn ôl Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur, mae gan y Llywodraeth “reol arbennig, ecsgliwsif”.

“Un rheol iddyn nhw ac un rheol i bawb arall” oedd ymateb Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, i’r newyddion.

“Beth am yr athrawon ysgol, gweithwyr trafnidiaeth a gweithwyr iechyd yn cael cyfle i fod yn rhan o’r peilot prawf hwn, ynteu i’r ychydig breintiedig mae e?

“Mae pobol wedi cadw at y rheolau ac wedi gwneud y peth iawn, mae Boris Johnson yn eu cymryd nhw’n ganiataol.”