Mae Heddlu Llundain wedi cyhoeddi lluniau o ddeg dyn maen nhw’n awyddus i siarad â nhw mewn perthynas â thrais yn stadiwm bêl-droed Wembley ar noson rownd derfynol Ewro 2020.

Dywed yr heddlu fod angen i’r unigolion “ateb cwestiynau”.

Daw hyn ar ôl i nifer o gefnogwyr heb docynnau wthio’u ffordd i mewn i’r stadiwm drwy’r gatiau er mwyn gwylio’r gêm rhwng Lloegr a’r Eidal.

Mae’r heddlu wedi bod wrthi’n edrych ar luniau o gamerâu’r stadiwm er mwyn ceisio adnabod yr unigolion oedd â rhan yn y digwyddiad yn y stadiwm ac mewn lleoliadau eraill yn y ddinas.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion, wrth iddyn nhw ddweud y bydd “y sawl oedd yn gyfrifol yn wynebu canlyniadau”.

Mae dau ddyn 18 oed eisoes wedi’u harestio ar amheuaeth o ddwyn eitemau gyda’r bwriad o helpu pobol i gael mynediad i’r stadiwm heb docynnau.

Mae Andy Trotter, cyn-gomisiynydd cynorthwyol Heddlu Llundain, wedi disgrifio’r golygfeydd fel “staen ar enw da ein gwlad”, tra bo’r comisiynydd cynorthwyol presennol, Jane Connors yn dweud y gellid bod wedi dod â’r gêm i ben oni bai bod yr heddlu wedi camu i mewn i helpu’r swyddogion diogelwch yn y stadiwm.

Fe fu achosion o hiliaeth yn erbyn tri chwaraewr croenddu Lloegr yn dilyn y gêm hefyd, wrth iddyn nhw fethu ciciau o’r smotyn.