Mae Sarah Rees, cadeirydd dros dro Yes Cymru, yn galw ar aelodau’r mudiad annibyniaeth i “barchu safbwyntiau pawb” yn dilyn ffrae sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae hi wrth y llyw am y tro yn dilyn ymddiswyddiad Siôn Jobbins, un o sylfaenwyr y mudiad, “am resymau personol”.
Mae nifer aelodau’r mudiad wedi codi’n sylweddol dros y 18 mis diwethaf – o ryw 2,500 ar ddechrau 2020 i 18,000 erbyn hyn – ac mae lle i gredu bod Brexit a’r gwahaniaeth yn ymateb llywodraethau Cymru a San Steffan i’r pandemig Covid-19 wedi cyfrannu at ei dwf.
Ond mae ffrae o fewn y mudiad yn bygwth ei sefydlogrwydd ar hyn o bryd, gydag aelodau’n troi ar ei gilydd.
Ac mae Sarah Rees, fel ei rhagflaenydd, yn dweud bod angen newidiadau strwythurol er mwyn symud ymlaen o’r ffrae, gan bwysleisio bod angen llai o ddibyniaeth ar wirfoddolwyr.
“Rydyn ni’n gwybod fod angen i ni wneud newidiadau,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.
“Rydyn ni’n rhy ddibynnol ar wirfoddolwyr, a dyna lle mae angen i ni newid.
“Felly yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw siarad â’n holl aelodau i gael eu cefnogaeth nhw ac iddyn nhw arwain y ffordd o ran sut rydyn ni’n cymryd yr aelodaeth yn ei blaen a sut rydyn ni’n gwneud y newidiadau mae angen i ni eu gwneud i adlewyrchu maint y mudiad rydyn ni erbyn hyn.”
Wrth drafod y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’r ffrae wedi digwydd, dywed fod “angen cofio bod y cyfryngau cymdeithasol, a phethau fel Twitter yn enwedig, yn swigen fach ac yn nifer fach iawn o bobol”.
“Mewn gwirionedd, o’r llond llaw hwnnw, mae gyda ni 18,000 o aelodau cyffrous, hapus, hyderus sydd eisiau mynd allan yno.
“Wrth gwrs fod gan y cyfryngau cymdeithasol ddylanwad, ond y gwir ddylanwad yw holl bobol Cymru sydd wedi cyffroi ynghylch y newid a’r hyn all ddigwydd i’n cenedl.
“Un o’r pethau o ran bod yn ystod eang o bobol ledled gwleidyddiaeth yw sicrhau eich bod chi’n barchus, a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig i fi, yn fy rôl yn gadeirydd dros dro, atgoffa pawb fod angen i ni barchu safbwyntiau pawb a pharchu pawb fel bodau dynol.”
Sticeri
Yn y cyfamser, mae hi’n atgoffa pobol i roi sticeri Yes Cymru mewn “llefydd priodol” yn unig.
Daw hyn ar ôl i’r Ceidwadwr David TC Davies ddweud ei fod e “wedi diflasu o weld sticeri Yes Cymru wedi’u gosod yn anghyfreithlon dros arwyddion ac adeiladau yng Nghymru”.
“Dydyn ni ddim wedi rhoi sêl bendith i’r sticeri hynny,” meddai Sarah Rees.
“Mae fy sticer i, er enghraifft, ar fy ngliniadur.
“Mae gen i ffrindiau sy’n rhoi sticeri ar eu ceir.
“Mae yna ffyrdd anhygoel o ddangos eich cefnogaeth i Yes Cymru drwy roi eich sticeri mewn llefydd priodol.”
Dyfodol y mudiad yn y fantol?
Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis, oni bai bod modd i’r mudiad ddatrys y sefyllfa, mae perygl i’w ddyfodol.
“Beth sydd ei angen arnyn nhw nawr yw arweinydd yn ei le,” meddai.
“Mae angen diwygiad llwyr o’r sefydliad ei hun, sut mae’r pwyllgor canolog yn gweithio a’i ddulliau cyfathrebu ag aelodau gwahanol, oherwydd mae’n amlwg i fi fod diffyg cyfathrebu yn Yes Cymru.
“Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, alla i ddim gweld y mudiad yn para hyd yn oed chwe mis oherwydd, ar hyn o bryd, maen nhw’n rhwygo’u hunain a gyda hynny, maen nhw’n gwanhau’r achos tros annibyniaeth hefyd.”