Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi gwneud tro pedol gan ddweud y bydd e’n hunanynysu yn hytrach na chael profion Covid-19 dyddiol ar ôl cael neges gan wasanaeth Olrhain Cysylltiadau’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi profi’n bositif ac roedd y prif weinidog a’r Canghellor Rishi Sunak wedi cael neges fel cysylltiadau agos iddo.

Roedd y gwrthbleidiau wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.

Erbyn hyn, mae Downing Street yn dweud na fydd e’n cymryd rhan yn y cynllun peilot wedi’r cyfan.

“Mae NHS Test and Trace wedi cysylltu â’r prif weinidog i ddweud ei fod e’n gyswllt i rywun â Covid,” meddai llefarydd.

“Roedd e yn Chequers pan gysylltodd Test and Trace â fe, a bydd e’n aros yno i ynysu.

“Fydd e ddim yn cymryd rhan yn y profion peilot.

“Bydd e’n parhau i gynnal cyfarfodydd â gweinidogion o bell.

“Maen nhw hefyd wedi cysylltu â’r Canghellor a bydd e’n ynysu yn ôl y gofyn hefyd, a fydd e ddim yn cymryd rhan yn y cynllun peilot.”